Mae dros 1,000 o bobol wedi llofnodi llythyr agored yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg.

Daw’r galwadau wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dorri’u haddewid i gyflwyno’r ddeddfwriaeth yn San Steffan erbyn mis Hydref 2021, ac yna eto erbyn diwedd mandad Stormont.

Mae’r llythyr wedi cael ei lofnodi gan ystod eang o bobol, gan gynnwys y paffiwr Michael Conlon, enillwyr Gwobr Turner Emma Campbell a Stephen Millar, y gantores Gráinne Holland, a’r athletwyr Neil McManus, Cathy Carey a Rory Grugan.

‘Addewidion gwag’

Cafodd y llythyr ei gyhoeddi yn The Irish News heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 5).

“Addawyd oes newydd o gyfartaledd i’n cymuned yng Nghytundeb Dydd Gwener y Groglith 1998,” meddai Conchúr Ó Muadaigh, llefarydd ar ran mudiad ymgyrchu An Dream Dreag.

“Dyw’r ‘gweithredu cadarn’ dros yr iaith Wyddeleg dal heb ddigwydd.

“Dro ar ôl tro, mae ein hawliau wedi cael eu gwadu, eu nacáu, a’u rhwystro gan y DUP ac eraill sydd heb dderbyn siaradwyr Gwyddeleg fel aelodau cyfartal mewn cymdeithas eto.

“Mae’r llythyr heddiw yn arwydd cadarn o’r gefnogaeth gymunedol tuag at ein hymgyrch dros hawliau ieithyddol.

“Mae pobol wedi cael digon o addewidion gwag a dechreuadau ffug.

“Mae hi’n gwbl resymol fod pobol yn disgwyl i lywodraethau gadw at eu gair a chyflwyno’u haddewidion, a chadw at yr amserlenni a’r rhwymedigaethau sydd ganddyn nhw.

“Mae ein hymgyrch yn galw am roi stop ar yr arfer parhaus o wthio’n hiaith a’n cymuned i’r cyrion.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain gadw at eu haddewid a’u hymrwymiadau heb oedi pellach.

“Yn ogystal â bod yn gyd-warantwyr ar gyfer Cytundeb Dydd Gwener y Groglith a Chytundeb St Andrews, ar y cyd â Llywodraeth Iwerddon, maen nhw’n gyd-awduron y ddeddfwriaeth iaith Wyddeleg a gafodd ei chyhoeddi fel conglfaen i’r cynllun Degawd Newydd Dull Newydd.

“Mae’r mater hwn yn parhau i fod yn brawf litmws brys i Lywodraeth Prydain ac ein sefydliadau gwleidyddol.

“Rhaid i’r hawliau ieithyddol a gafodd eu haddo inni’n wreiddiol yn 2006 gael eu gwireddu, eu gweithredu, a’u parchu o’r diwedd.”

 

Deddf Iaith Wyddeleg: cyhoeddi llythyr gan ymgyrchwyr at Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon

“Yn anad dim arall, rydym yn galw ar y Llywodraeth Brydeinig i symud y ddeddfwriaeth hon ar unwaith yn San Steffan heb oedi pellach”