Mae Aelod Seneddol trawsryweddol cyntaf y Deyrnas Unedig yn dweud ei fod e’n “hynod siomedig” nad yw pobol draws wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud â therapi trosi.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Jamie Wallis, Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr, ei fod e’n draws.
Wrth siarad ar Twitter, fe wnaeth e feirniadu cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnwys pobol hoyw yn unig yn y ddeddfwriaeth.
Dywedodd ei bod hi’n “anghywir cau allan warchodaeth ar gyfer grŵp cyfan o bobol o arfer sydd wedi’i ddisgrifio fel ‘ffiaidd”, ac y byddai’n “torri addewid” pe bai therapi trosi’n cael ei wahardd ond heb gynnwys pobol drawsryweddol.
Mae lle i gredu mai dau dro pedol gan y prif weinidog Boris Johnson ar gyflwyno deddfwriaeth sydd wedi arwain at gynnwys pobol hoyw yn unig.
Cafodd y warchodaeth ei disgrifio’n wreiddiol fel un “gyffredinol” a fyddai’n atal unrhyw un rhag cael ei newid ac yn “gwarchod pawb”.
Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn pwyso ar Boris Johnson i gynnwys pobol drawsryweddol yn y ddeddfwriaeth mae Dr Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint.
‘Hysteria a gwenwyn diangen’
“Dw i’n hynod siomedig ynghylch penderfyniad y Llywodraeth i beidio â chynnwys hunaniaeth rhyw yn y gwaharddiad ar therapi trosi,” meddai Jamie Wallis ar Twitter.
“Mae nifer wedi gofyn beth yw fy marn.
“Dw i wedi credu erioed fod y ddadl hon yn denu hysteria a gwenwyn diangen, a dim ond o drafodaeth ystyrlon y gall canlyniadau ystyrlon ddod.
“Mae’n ddealladwy fod angen edrych ar bryderon a’u trafod, ond mae’n anghywir cau allan warchodaeth ar gyfer grŵp cyfan o bobol o arfer sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘ffiaidd’.
“Gobeithio bod y cyhoeddiad y bydd yna ddarn o waith ar wahân yn cael ei wneud ar y mater hwn yn gyflym.
“Os yw’r gwaharddiad ar therapi trosi yn pasio heibio’r Senedd heb unrhyw warchodaeth ar gyfer y gymuned drawsryweddol, does dim modd ei ddisgrifio fel unrhyw beth ond addewid wedi’i dorri.”
Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig y dylid trin pobol drawsryweddol “â’r caredigrwydd a pharch mwyaf posib”, ond fod “cymhlethdod materion yn gofyn am waith ar wahân i ystyried therapi trosi trawsryweddol ymhellach”.