Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd, sy’n dweud beth gallwch chi ei ddarllen yn y cylchgrawn i ddysgwyr.
Mae Lingo newydd yn gylchgrawn i ddysgwyr. Mae rhywbeth i ddysgwyr o bob lefel, os dych chi newydd ddechrau dysgu Cymraeg neu os dych chi’n fwy profiadol.
Mae llawer o erthyglau am wahanol bethau. Mae erthyglau am fwyd, celf, hanes, byd natur, y newyddion a llawer mwy. Mae rhywbeth i bawb.
Dych chi’n hoffi hanes? Mae John Rees yn arbenigwr ar hen bethau. Mae e’n ysgrifennu colofn Trysorau Cymru am bethau hanesyddol. Mae e wedi ysgrifennu am bethau fel llestri Nantgarw, llwyau caru a hen felinau.
Mae’r eitem Dw i’n Hoffi yn helpu chi i ddod i adnabod rhai o sêr Cymru yn well. Ry’n ni’n gofyn pethau fel ‘beth ydy dy hoff ffilm?’ a ‘beth ydy dy hoff air Cymraeg?’. Mae rhai o’r atebion yn ddifyr iawn!
Mae llawer o grefftwyr da iawn yng Nghymru. Mae Lingo newydd yn rhoi sylw iddyn nhw ar y dudalen Crefftwyr Crefftus. Ry’n ni’n siarad gyda phob math o artistiaid a chrefftwyr – rhai sy’n gwneud pethau fel paentio, gwnïo, a gwneud crochenwaith.
Dy’ch chi’n hoffi mynd i gerdded? Dy’ch chi’n hoffi bod yn yr awyr iach? Mae Brân Devey o Ramblers Cymru yn awgrymu llawer o lefydd i chi fynd am dro ar draws y wlad. Mae e’n rhoi cyngor ar sut i gadw’n saff pan fyddwch chi’n cerdded yn y mynyddoedd a llefydd eraill.
Dych chi’n hoffi coginio? Dych chi’n hoffi trio bwydydd newydd? Mae’r eitem fwyd yn Lingo newydd yn edrych ar gwmnïau bwyd. Mae rhai yn gwneud pethau fel mêl, pice ar y maen, a siocled. Weithiau mae cyngor am fwyta’n iach. Ac mae rysáit i chi drio gwneud y bwydydd blasus yma eich hun.
Mae llawer iawn o bobl o Gymru yn byw mewn gwledydd tramor. Dych chi’n hoffi gwybod mwy am y bobl yma a’r gwledydd lle maen nhw’n byw? Dych chi’n hoffi clywed beth maen nhw’n gwneud yno? A beth maen nhw’n bwyta? Mae’r erthygl Dros y Byd yn holi pobl am eu profiadau. Weithiau dy’n ni’n siarad efo pobl sy’n byw dramor ac sy’n dysgu Cymraeg. Mae rhai yn dechrau dysgu’r iaith am fod eu hynafiaid yn dod o Gymru. Mae rhai eraill yn dysgu Cymraeg er bod dim cysylltiad â Chymru!
Dych chi’n hoffi byd natur? Dych chi’n hoffi dysgu mwy am adar, blodau a phlanhigion? Bethan Wyn Jones sy’n ysgrifennu colofn Byd Natur. Mae hi’n ysgrifennu am natur drwy’r tymhorau.
Dych chi’n hoffi gwylio’r teledu? Dych chi’n hoffi gwylio rhaglenni S4C i’ch helpu i ddysgu Cymraeg? Mae Ar y Bocs yn siarad efo rhai o’r sêr yn y rhaglenni ar S4C ac yn edrych ar gyfresi newydd sy’n dod.
Dych chi’n hoffi darllen beth sydd yn y newyddion? Dych chi’n hoffi siarad am rai o’r pethau sydd yn y newyddion? Mae Lingo newydd yn ysgrifennu am stori yn y newyddion dych chi’n gallu trafod efo’ch gilydd. Efallai dych chi ddim bob amser yn cytuno!
Ac os dych chi’n hoffi gwneud croesair, mae un yn y cylchgrawn bob tro.
Ry’n ni bob amser yn hoffi clywed gan ein darllenwyr. Mae Eich Tudalen Chi efo llythyron gan ddarllenwyr Lingo newydd. Weithiau ry’n ni’n awgrymu pethau i chi ysgrifennu amdanyn nhw. Mae croeso i unrhyw un anfon llythyr aton ni am unrhyw bwnc. Mi fydd yn cael ei gyhoeddi yn Lingo newydd. Beth am ysgrifennu aton ni a rhoi gwybod beth dych chi’n gwneud?
Dilynwch a hoffwch Lingo Newydd:
Geirfa
Profiadol – experienced
Erthyglau – features/articles
Hanesyddol – historic
Crochenwaith – pottery
Awyr iach – fresh air
Cyngor – advice
Pwnc – subject
Difyr – amusing
Gwledydd tramor – foreign countries
Profiadau – experiences
Hynafiaid – ancestors
Awgrymu – suggest
Cysylltiad – connection
Planhigion – plants
Tymhorau – seasons
Cytuno – agree
Tanysgrifiwch (Subscribe):