Bydd cannoedd o adeiladau a thirnodau yn cael eu goleuo’n borffor dros y penwythnos er mwyn dathlu’r cyfrifiad a’i bwysigrwydd i gymunedau.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i godi ymwybyddiaeth am Ddiwrnod y Cyfrifiad ar Fawrth 21.
Bydd tirnodau eiconig, gan gynnwys Canolfan y Mileniwm, Tŵr BT yn Llundain, a Thŵr Blackpool yn ymuno yn y dathliad, ac yn cael eu goleuo yn borffor gan mai dyna liw brand y cyfrifiad.
‘Cyfrifiad yn helpu i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’
Bob deg mlynedd, mae’r cyfrifiad yn helpu i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig, fel penderfynu ar y nifer priodol o leoedd mewn ysgolion a gwelyau mewn ysbytai sydd eu hangen er mwyn gwasanaethu cymunedau.
“Mae’r cyfrifiad yn ddigwyddiad hollbwysig sy’n helpu i lywio’r gwasanaethau hanfodol mae pawb yn dibynnu arnyn nhw bob dydd yn ein cymunedau,” meddai Pete Benton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Cyfrifiad.
“Roeddem am daflu goleuni (porffor!) ar yr adeiladau a’r tirnodau sydd o’r pwys mwyaf i’w hardaloedd lleol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd y cyfrifiad wrth helpu i lunio’r cymunedau rydym ni’n byw ynddynt.
“Rydym ni wrth ein bodd â’r holl gefnogaeth rydym wedi’i chael hyd yn hyn a hoffem ddiolch i’r holl adeiladau a thirnodau am gymryd rhan. Nawr yw’r amser i bawb gwblhau eu cyfrifiad a bod yn rhan o hanes.”