Bryn Elltyd yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog yw un o ychydig westai carbon negatif y Deyrnas Unedig. Ers 2013, mae’r gwesty’n cael ei bweru’n llwyr gan ynni adnewyddadwy. Mae wedi cael cydnabyddiaeth swyddogol fel busnes carbon negatif, ac wedi’i ddisgrifio gan y Guardian fel “un o encilion gwyrddaf Ewrop”.

Gosododd John a Celia Whitehead baneli solar ar eu cartref yn 1983 ac, yn bersonol, maen nhw wedi bod yn ddibynnol ar ynni adnewyddadwy ers hynny. Roedd John yn aelod o Gynulliad Newid Hinsawdd Bro Ffestiniog, sef sesiynau dros bum ardal yn y gogledd orllewin i’r gymuned ddod ynghyd a thrafod yr argyfwng hinsawdd gyda’r nod o gyd-greu cynllun gweithredu ymhob ardal.

Mae newid hinsawdd yn broblem wirioneddol. Mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud nawr am gael effaith anferthol ar ein hwyrion a’n hwyresau.

Mae Bryn Elltyd ger llyn hydro Tanysgrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Yn 1883, roedd y tŷ’n llosgi lot o lo ac yn oer. Heddiw, mae’n gynnes braf. Rydyn ni’n defnyddio dŵr solar i gynhesu’r adeilad, ac mae’r aer cynnes o’r conservatories yn cael ei bwmpio o amgylch y tŷ (yndi, mae’r haul yn gweithio yn Blaenau!). Os nad yw hynny’n creu digon o wres, mae’r system gwres canolog biomas yn cicio mewn yn awtomatig ac yn troi sgil-gynhyrchion melin lifio gyfagos, pellets pren, yn nwy ac yn eu hail-losgi. Mae’n effeithlon iawn, iawn.

Yr allwedd mewn tŷ carreg o 1883 yw insiwleiddio, insiwleiddio ac insiwleiddio. Gall hyn olygu adeiladu er mwyn cael llai o waliau oer ac agored drwy godi ystafelloedd modern gyda waliau wedi’u hinsiwleiddio o’u blaen nhw. Rydyn ni wedi rhoi’r insiwleiddiwr gorau y gallwn ni ddod o hyd iddo yn y waliau, ac yn defnyddio gwlân. Mae’r ffenestri dwbl wedi dod o’r ffatri leol, Rehau, drytach na ffenestri eraill, ond yn lleol. Fel busnes, rydyn ni’n gwario 80% o fewn 18 milltir.

Dylai’r cyfarfodydd gafon ni fel rhan o Gynulliad Newid Hinsawdd Bro Ffestiniog ysbrydoli pobol i werthfawrogi grym y lleol. Gobeithio y bydd grantiau drwy fudiad GwyrddNi, sy’n cynnal y Cynulliadau, i helpu â hynny.

O le ddaeth ein hangerdd tuag at yr amgylchedd, felly? Rydyn ni wrth ein boddau â Blaenau, ac roedden ni’n dod yma fel disgyblion yn y 1960au i ganolfan awyr agored Coventry sydd bum milltir i ffwrdd ym Mhlas Dol y Moch. Rydyn ni wedi bod yn defnyddio ynni solar ers 1983, a dydyn ni heb brynu ynni anadnewyddadwy y ganrif hon.

Fe wnes i, fel athro ac arholwr gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, allu datblygu’r tŷ i fod yn hafan gynaliadwy sy’n cael cydnabyddiaeth gan brifysgolion y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni wedi ennill yr un wobr amgylcheddol â’r Savoy ddwywaith. Un o’n prif lwyddiannau yw gosod tri phwynt pweru ceir EV ers 2012. Fel rhywun sy’n gyrru EV, maen nhw wastad yn gweithio. Rydyn ni wedi’u hadnewyddu nhw bum gwaith er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ddibynadwy. Mae angen i’r gymdeithas ddal i fyny. Yn hytrach, mae’r grantiau a’r hyrwyddo fel arfer yn mynd tuag at y syniad diweddaraf. Ond y prif enillydd oedd yr amgylchedd – nid y sylw na’r bookings, yn sicr.

Mae’r busnes wedi costio lot i ni mewn buddsoddiad, gydag ychydig iawn o help gan lywodraethau. Ond mae gan Blaenau fusnes carbon negatif arobryn.

Ond yn y dyfodol, bydd prisiau ynni yn cynyddu’n eithriadol. Bydd newid yn yr hinsawdd. Mae gan bobol ddewis, a’r wybodaeth sydd ei hangen. Roedd y rhan fwyaf o’r atebion yno flynyddoedd yn ôl. Gall pobol gyffredin newid pethau.