Mae dynes o’r Weriniaeth Tsiec sy’n byw yn Sir Benfro erbyn hyn yn dweud bod dysgu Cymraeg wedi agor drysau iddi, ac yn golygu ei bod hi’n teimlo’n rhan o deulu arall.
Symudodd Martina Roberts – sy’n siarad Tsiec, Saesneg ac ychydig o Almaeneg – i wledydd Prydain ddeunaw mlynedd yn ôl, ac mae hi’n byw yn Noc Penfro erbyn hyn gyda’i gŵr Siôn, sy’n siarad Cymraeg.
Ddwy flynedd yn ôl, cwblhaodd Martina y cwrs sabothol Cymraeg mewn Blwyddyn ar gyfer athrawon, ac mae hi bellach yn defnyddio’i Chymraeg yn ddyddiol yn ei swydd fel Athrawes Cyfnod Sylfaen a Chydlynydd yn Ysgol Gynradd Manorbier.
Ers cwblhau ei blwyddyn sabothol, mae Martina wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg wythnosol.
Ar hyn o bryd, mae’n dilyn cwrs lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Penfro, sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Penfro ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
‘Cymru ydy fy nghartref’
Mae Martina Roberts yn gweld eisiau ei theulu yn y Weriniaeth Tsiec, ond mae hi’n teimlo ei bod hi’n perthyn i Gymru bellach.
‘‘Dw i’n colli fy nheulu ond maen nhw’n gefnogol iawn,” meddai.
“Maen nhw’n deall pam fy mod i’n teimlo bod angen i mi ddysgu Cymraeg, gan mai Cymru ydy fy nghartref i nawr.
“Ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg, dw i’n teimlo ’mod i’n perthyn i Gymru, a dw i eisiau defnyddio’r sgiliau dw i wedi eu dysgu i hyrwyddo’r iaith cymaint ag y galla i yn yr ysgol.”
Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim i bobl sy’n gweithio yn y sector addysg yng Nghymru ym mis Medi.
“Ewch amdani, peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau.
“Manteisiwch ar bob cyfle i siarad, gwrando neu ddarllen Cymraeg.
“Beth oedd yn gweithio i mi oedd gwneud nodyn o’r geiriau newydd yr oeddwn wedi eu dysgu’r diwrnod hwnnw, a’u darllen cyn i mi fynd i’r gwely.”
‘Megis dechrau fy nhaith’
Mae Martina Roberts wrth ei bodd yn defnyddio’i Chymraeg ym mhob sefyllfa, ac mae’n gweithio’n galed er mwyn cefnogi staff Ysgol Manorbier a datblygu dwyieithrwydd ar draws yr ysgol.
“Dw i bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ymarfer siarad Cymraeg,” meddai.
“Dw i bellach yn siarad Cymraeg gyda fy ngŵr a’i deulu, gyda staff a phlant yr ysgol yn ogystal â’r gymuned ehangach.
“Megis dechrau fy nhaith i ddysgu Cymraeg oedd y cwrs sabothol, a dw i methu aros i weld lle fydd y Gymraeg yn mynd â fi nesaf!”