Byddai’n “drychinebus” pe bai mwy o gytundebau masnach rhyngwladol yn golygu bob pobol yn prynu bwyd llai cynaliadwy, yn ôl cadeirydd Hybu Cig Cymru.

Wrth siarad â chynrychiolwyr y diwydiant amaeth yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 18), dywedodd Catherine Smith fod rhaid “sefyll yn gadarn yn erbyn cyflwyno safonau amgylcheddol a lles is trwy gytundebau masnach brysiog”.

Yr her i swyddogion masnach Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth drafod gyda gwledydd yn y Dwyrain Canol, India a Chanada fydd cael “bargen sy’n dda i’n ffermwyr”, meddai.

‘Cam gwag yn foesol’

Yn ôl ymchwil, mae cig oen a chig eidion o Gymru’n “llawer is” o ran allyriadau, ac mae Rhaglen Datblygu Cig Coch a phrosiectau eraill gan Hybu Cig Cymru yn treialu ffyrdd o dorri allyriadau ymhellach, lleihau gwastraff, storio mwy o garbon ac adfywio priddoedd.

“Byddai’n ffôl o ran ein heconomi, yn gam gwag yn foesol, ac yn anghyfrifol o ran yr amgylchedd fyd-eang i yrru cwsmeriaid Prydeinig i brynu dewisiadau eraill llai cynaliadwy,” meddai Catherine Smith ym mrecwast Hybu Cig Cymru.

“Byddem i bob pwrpas yn allforio ein hallyriadau ac, fel y mae swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyfaddef, mae hefyd yn debygol o leihau cyflogaeth yn y diwydiant amaeth yn y wlad hon.

“Mae prinder bwyd byd-eang ac aflonyddwch yn y cadwyni cyflenwi rhyngwladol wedi rhoi sylw o’r newydd ar ddiogelwch bwyd. Dyma’r amser i ddathlu manteision cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel yn agos at adref.”

‘Pwynt tyngedfennol’

Dywed Catherine Smith fod y diwydiant yn wynebu ansicrwydd pryderus, gan gynnwys sgil-effeithiau’r rhyfel yn Wcráin, a oedd yn datgelu gwendidau a oedd eisoes yn bodoli yn ein cadwyni cyflenwi byd-eang.

“Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol a all olygu newid parhaol,” meddai.

“Mae’n rhaid adeiladu ein hymatebion ein hunain, a mynd i’r afael â sut i fynd â stori llwyddiant ffermio Cymru i’r lefel nesaf.

“Mae gennym ni atebion. Gall pob un ohonom fod yn hynod falch o’r Ffordd Gymreig o gynhyrchu cynaliadwy – ein system o gynhyrchu protein o ansawdd uchel ar dir ymylol, heb ddefnyddio dulliau amaethu dwys.

“Rydyn ni wedi gosod y safon, ac mae gwledydd eraill bellter byd ar ein holau.”