Mae adroddiad newydd yn dweud bod disgyblion o gefndiroedd tlotach bron i ddwy flynedd (22-23 mis) y tu ôl i’w cyfoedion, ar gyfartaledd, pan fyddan nhw’n sefyll arholiadau TGAU.

I’r rhai sy’n ‘dlawd hirdymor’, mae’r nifer hwnnw’n cynyddu i 29 mis, ac mae ymchwilwyr wedi dod i’r casgliad fod cyfnodau clo Covid-19 wedi cynyddu’r bwlch.

Daw hyn wythnos ar ôl i adroddiad ganfod fod tlodi plant yng Nghymru wedi codi 5% rhwng 2019-20 a 2020-21, gyda chanran y plant yn y Deyrnas Unedig sy’n byw mewn tlodi cymharol wedi gostwng 4% ar yr un pryd.

‘Dioddef o dan Lafur’

“Boed yn gyrhaeddiad addysgol neu’n lefelau tlodi, mae’n amlwg bod y tlotaf yng Nghymru yn dioddef o dan Lafur,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.

“Maen nhw wedi cael 23 mlynedd i helpu’r rhai mwyaf bregus ond wedi methu’n aruthrol.

“Mae Llafur mewn grym yn golygu bod cyfraddau tlodi plant yn cynyddu a safonau addysg yn gwaethygu.

“Cofiwch, fe gollodd plant yng Nghymru fwy o ddiwrnodau o ysgol ar gyfartaledd nag unrhyw ran arall yn y Deyrnas Unedig oherwydd cyfyngiadau Llafur – a does dim cynllun iddyn nhw ddal i fyny.

“Yn lle agwedd ddi-glem Llafur, yr hyn sydd angen i ni ei weld yw ymrwymiad clir gan y Llywodraeth Lafur hon i sicrhau bod ein plant yn cael eu cefnogi ym mhob ffordd bosibl fel y gall dysgwyr gael yr addysg orau y maent yn ei haeddu.”

‘Stwffio’r Senedd gyda mwy o wleidyddion’

“Tra bod gweinidogion Llafur yn ceisio adeiladu etifeddiaeth trwy stwffio’r Senedd gyda mwy o wleidyddion, bydd eu hetifeddiaeth mewn gwirionedd gan y gyfradd marwolaethau Covid gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, tlodi plant yn codi, a phlant tlotach bellach mewn perygl o gael eu gadael ar ôl,” meddai Andrew RT Davies.

“Ledled Cymru, mae plant tlotach mewn perygl o ddod yn genhedlaeth goll o dalent heb ei gwireddu.

“Mae’n bryd i Lafur roi trefn ar eu blaenoriaethau a mynd i’r afael â’r materion sydd o bwys, yn hytrach na gwario eu hegni a’n harian yn deddfu ar gyfer mwy o wleidyddion.”