Mae Heledd Fychan yn galw am Adolygiad Cyflym o anghydraddoldebau o fewn y system addysg yng Nghymru.

Daw galwad llefarydd plant a phobol ifanc Plaid Cymru wrth i ymchwil newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg ddangos bod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig tua dwy flynedd y tu ôl i’w cyfoedion.

Mae’r adroddiad yn dweud bod disgyblion o gefndiroedd tlotach 22 i 23 mis y tu ôl i’w cyfoedion, ar gyfartaledd, pan fyddan nhw’n sefyll arholiadau TGAU.

I’r rhai sy’n ‘dlawd hirdymor’, mae’r nifer hwnnw’n cynyddu i 29 mis, ac mae ymchwilwyr wedi dod i’r casgliad fod cyfnodau clo Covid-19 wedi cynyddu’r bwlch.

Daw hyn wythnos ar ôl i adroddiad ganfod fod tlodi plant yng Nghymru wedi codi 5% rhwng 2019-20 a 2020-21, gyda chanran y plant yn y Deyrnas Unedig sy’n byw mewn tlodi cymharol wedi gostwng 4% ar yr un pryd.

‘Plaid Cymru yn barod i chwarae ei rhan’

Mae Heledd Fychan yn dweud bod angen mynd i’r afael â’r broblem ar fyrder, o ystyried y bydd yr argyfwng costau byw yn gwaethygu’r broblem dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

“Mae’r canfyddiadau hyn yn peri cryn bryder ac yn dangos bod llawer o waith i’w wneud eto o ran cau’r bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru,” meddai.

“Dyma pam mae Plaid Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â thlodi plant fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, gan fynd i’r afael â gwraidd yr hyn sy’n achosi anghydraddoldeb ymhlith disgyblion yn y lle cyntaf.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb ar frys gan y bydd y broblem yn gwaethygu yn sgil yr argyfwng costau byw.

“Dylai’r Gweinidog Addysg ystyried cynnal Adolygiad Cyflym er mwyn deall pam fod y sefyllfa yng Nghymru mor siomedig ac adrodd ar gyfres o argymhellion ystyrlon cyn dechrau tymor yr hydref.

“Fel bob amser, mae Plaid Cymru yn barod i chwarae ei rhan i gydweithio ar y mater hwn, yn union fel yr ydym wedi’i wneud drwy sicrhau prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd a gofal plant am ddim o 2 flwydd oed.”

Disgyblion tlawd yng Nghymru ddwy flynedd ar ei hôl hi o gymharu â’u cyfoedion

“Mae’n bryd i Lafur roi trefn ar eu blaenoriaethau a mynd i’r afael â’r materion sydd o bwys,” meddai Andrew RT Davies