Daf Prys
Daf Prys sydd yn credu bod ffordd well o ariannu gemau na dibynnu ar arian llywodraeth …
Diddorol oedd nodi syniadau Rhys Mwyn yn yr Herald Cymraeg yr wythnos dwetha’ am ddefnydd o’r Gymraeg mewn gemau cyfrifiadurol llwyddiannus.
Fe awgrymodd e y byddai’n wych tase fersiynau Cymraeg o gemau mawr fel Call Of Duty a Grand Theft Auto yn bodoli, ac mai dyna’r her nesaf i ddiwylliant Cymraeg.
Os chi’n dilyn y blog yma dw i wedi trafod y peth o’r blaen, ac mae’n werth mynd nôl at beth oedd gen i’w ddweud.
Yn anffodus, wrth drafod cwmnïau megis Electronic Arts neu Activision, cwmnïau sy’n gyfrifol am gynhyrchu gemau megis FIFA a Call of Duty, mae’n rhaid cadw mewn golwg taw busnesau ydynt.
Peth hawdd i ysgrifennu ond anoddach i grynhoi – mwy neu lai, diwedd y gan yw’r geiniog.
Dim elw
Diddordeb cyntaf y busnesau yma yw creu elw, ac mae timau mawr yn gweithio ar y ffordd orau o wneud hynny.
Y ffaith syml i ni yng Nghymru yw nad oes digon o niferoedd gennym yma sy’n siarad Cymraeg i fod o ddiddordeb i gwmnïau rhyngwladol sy’n gaeth i’w cyfranddalwyr. Nid yw’r hafaliadau o’n plaid.
Yr unig ffordd dwi’n gweld unrhyw beth tebyg yn digwydd os yw’r corff llywodraethol perthnasol yn fodlon gosod swm i un ochr ac yn gwahodd y cwmnïau i’w ddefnyddio ar gyfer lleoli’r gêm yn Gymraeg.
Dibynnu ar nawdd
Mae dwy gêm wedi dod allan yn ddiweddar yn y Gymraeg, ac mi wnaeth y ddwy gêm dderbyn nawdd gan S4C a Llywodraeth Cymru i leoleiddio.
Master Reboot/Enaid Coll oedd un a Dirgelwch y Marcwis: Trysor Cudd oedd y llall, yn ogystal â Brwydr y Bwystfil gan Dojo Arcade.
Gan ddefnyddio Wales Interactive (gwneuthurwyr Enaid Coll) fel esiampl, eu model nhw oedd creu’r gêm yn Saesneg, wedyn ail-wneud y peth yn y Gymraeg.
Mae Wales Interactive wedi rhyddhau gêm arall yn ddiweddar sef Soul Axiom, ond d’yn nhw ddim wedi derbyn nawdd i leoli’r gêm ac felly nid oes fersiwn Cymraeg. Dyma yw gwirionedd y mater.
Model arall
Felly’r cwestiwn yw, ai dyma’r model orau i ni ddisgwyl gweld gemau yn y Gymraeg i ymddangos yn y dyfodol?
Fy ateb i yw na, ac mae’r ffordd yma o feddwl i weld dipyn bach ben i waered os ydyn ni am weld datblygiadau a thwf y Gymraeg yn y sector yma.
Y model byswn i’n ei gynnig yw’r un ‘da ni wedi ei weld yn ddiweddar gan gêm Never Alone – gallwch wylio adolygiad Fideo Wyth fan hyn:
Yn yr enghraifft hon mae pobloedd frodorol o Alaska wedi penderfynu creu deunydd eu hunain gyda chymorth gan ddatblygwyr a chyhoeddwyr allanol.
Yn y gêm mae eu diwylliant hwythau yn cael ei osod law yn llaw â gweithred y gêm. Iaith y gêm yw eu hiaith eu hunain, gyda dewisiadau o ba iaith i gael ar gyfer isdeitlau.
Dyma sut dw i’n gweld dyfodol yr iaith Gymraeg mewn gemau cyfrifiadurol, nid ar gyfer ni’r Cymry yn unig, ond ar gyfer pobloedd pob diwylliant.