Mae barnwr wedi canmol gwaith “ddiwyd” myfyrwyr y gyfraith yng Nghaerdydd sydd wedi helpu i wyrdroi euogfarn dyn a gafodd ei gyhuddo o lofruddio.
Cafwyd Dwaine George, sydd bellach yn 30 oed, yn euog yn 2001 o saethu Daniel Dale, 18, ym Manceinion, a chafodd ei garcharu am oes.
Roedd Dwaine George wedi gwadu’r cyhuddiad ac yn mynnu ei fod yn ddieuog ond cafodd orchymyn i dreulio o leiaf 12 mlynedd dan glo cyn iddo gael ei ryddhau’r llynedd ar drwydded.
Ar ôl i apêl fethu yn 2004, fe wnaeth y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) gyfeirio’r dyfarniad i’r Llys Apêl am yr eildro.
Ysgol y Gyfraith Caerdydd
Cafodd achos apêl Dwaine George ei baratoi gan fyfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n gweithio ar brosiect a sefydlwyd o fewn Ysgol y Gyfraith i ystyried achosion posibl o gamweddau.
Sefydlwyd Prosiect Innocence Ysgol y Gyfraith Caerdydd yn 2005/6, yn dilyn cryn ddiddordeb gan fyfyrwyr mewn camweddau cyfiawnder.
Heddiw, fe wnaeth y barnwr Syr Brian Leveson, a dau farnwr arall, ddiddymu’r dyfarniad yn erbyn George.
Mynegodd y barnwr “ddiolch” y llys i’r myfyrwyr am eu rhan yn yr apêl a thalodd deyrnged i’r uned yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd.
Daniel Dale
Cafodd Daniel Dale, nad oedd erioed wedi bod mewn trafferth gyda’r heddlu, ei saethu wrth iddo sgwrsio gyda ffrindiau yn y stryd.
Roedd disgwyl iddo gael ei alw fel tyst mewn achos llofruddiaeth ble roedd ei ffrind, Paul Ward, 16 oed, wedi cael ei drywanu i farwolaeth ym mis Ionawr 2001.
Disgrifiodd y barnwr sut fod myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi dod o hyd i dystiolaeth wyddonol eu hunain a chyfeiriodd yr achos i’r Llys Apêl ar y sail fod “posibilrwydd go iawn” nad oedd y dystiolaeth o weddillion ergyd yn ddilys.