Stephen Crabb
Does gan Lywodraeth Cymru “ddim esgus” i beidio â chyflwyno Cronfa Gyffuriau Canser yng Nghymru, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Roedd Stephen Crabb yn siarad ar ôl i arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband roi addewid i ddarparu cyllid newydd gwerth £330 miliwn ar gyfer triniaethau yn Lloegr os fydd y blaid yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae Llafur wedi addo’r arian i wella mynediad i lawdriniaethau arloesol a radiotherapi yn ogystal â’r cyffuriau diweddaraf.

Yn ôl Stephen Crabb, mae’r Gronfa Gyffuriau Canser wedi gwella bywydau degau o filoedd o ddioddefwyr canser yn Lloegr.

Ychwanegodd bod y £123 miliwn ychwanegol wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn yn Natganiad yr Hydref wythnos ddiwethaf yn ddigon i dalu am gronfa debyg yng Nghymru.

Yng Nghymru, mae’n rhaid i gleifion sy’n dioddef o bob afiechyd, gan gynnwys canser, wneud cais am gyllid i dalu am gyffuriau arbennig i’w bwrdd trwy’r system Gais Cyllido Cleifion Unigol.

‘Dim esgus’

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: “Does gan Lywodraeth Lafur Cymru ddim esgus i beidio â chyflwyno Cronfa Gyffuriau Canser yng Nghymru.

“Dyna pam fod y Blaid Lafur yn Lloegr wedi ymrwymo iddo, a dyna pam fod 97,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am un yng Nghymru.”

‘Gwella’r broses’

Dywedodd llefarydd ar ran Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, fod sefyllfa Cymru ar y mater yn glir.

Meddai’r llefarydd: “Rydym wedi ymrwymo i gael y fargen orau ar gyfer pob claf sydd angen unrhyw fath o driniaeth a meddyginiaethau arbenigol – dyna pam yr ydym yn gwella ein proses ceisiadau cyllido cleifion unigol.

“Mae’r Gronfa Cyffuriau Canser yn methu yn Lloegr, ac mae’n amlwg bod yn rhaid i wleidyddion o bob plaid ddelio â’r ffrae sy’n dod yn sgil y methiant polisi. Does gennym ni ddim bwriad i sefydlu cronfa o’r fath yng Nghymru.”