Mae troseddwr rhyw “peryglus iawn” wedi cael ei ryddhau ar ôl i farnwr ddyfarnu y byddai’n “anghyfreithlon” i’w gadw dan glo.
Yn ôl arbenigwyr mae Jeffrey Charles Goodwyn, 48, yn peri risg sylweddol i blant oherwydd ei dueddiadau treisgar a phedoffilaidd.
Roedd eisoes wedi ei ddedfrydu am dreisio plentyn 9 oed pan gafodd ei garcharu unwaith eto ym mis Ionawr 2012 am ymosod yn anweddus ar blentyn saith oed.
Dywedodd y barnwr ar y pryd ei fod yn “droseddwr peryglus dros ben” a chafodd ei garcharu am gyfnod amhenodol yn Llys y Goron Caerdydd am gyflawni’r ddau ymosodiad.
Ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar ôl i farnwr yn y Lys Apel yn Llundain ddweud bod y ddedfryd amhenodol a gafodd yn “anghyfreithlon.”
Mae dedfrydau o’r fath yn caniatáu i’r awdurdodau gadw’r troseddwyr mwyaf peryglus dan glo am gyfnod amhenodol nes eu bod yn cael eu profi i fod yn ddiogel.
Ond yn ôl yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas, ni ellir cyflwyno dedfrydau o’r fath am droseddau oedd wedi digwydd cyn mis Ebrill 2005.
Roedd Goodwyn wedi cyflawni’r troseddau flwyddyn neu fwy cyn hynny.
Dywedodd yr Arglwydd Thomas bod Goodwyn yn parhau’n “ddyn peryglus” ond “er gwaetha’r perygl i’r cyhoedd” nid oes unrhyw amheuaeth bod y ddedfryd yn anghyfreithlon, meddai.
Roedd yr Arglwydd Thomas wedi gohirio ei benderfyniad er mwyn sicrhau bod trefniadau parôl mewn lle i ddiogelu’r cyhoedd.
Bydd Goodwyn yn treulio pum mlynedd ar drwydded gan ei fod eisoes wedi treulio tair blynedd yn y carchar