Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd tîm ychwanegol yn cefnogi un o ysgolion uwchradd y sir yn dilyn adolygiad siomedig gan Estyn.

Cafodd Ysgol Uwchradd Llandrindod ei harolygu ym mis Hydref a’i gosod mewn “mesurau arbennig” gan Estyn.

Ni fydd adroddiad Estyn yn cael ei gyhoeddi tan yr wythnos nesaf ond cyn hynny, bydd tîm o uwch swyddogion ac ymgynghorwyr her ERW, y consortiwm addysg rhanbarthol dros dde-orllewin a chanolbarth Cymru, yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i’r ysgol.

‘Siomedig’

Meddai’r Cynghorydd Arwel Jones, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys sydd â chyfrifoldeb dros addysg a gwasanaethau plant, fod yr adroddiad yn “siomedig dros ben” ac yn “destun cryn bryder” i’r ysgol, y corff llywodraethu a’r cyngor.

Ychwanegodd fod darparu addysg o ansawdd i’n plant a’n pobl ifanc yn un o flaenoriaethau’r cyngor a’i fod yn hyderus y gallan nhw “sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen.”

Meddai Arwel Jones: “Mae’r pennaeth, y staff a’r corff llywodraethu wedi derbyn yr adroddiad a’r argymhellion a bydd yn sail cynllun gweithredu manwl i fynd i’r afael â’r prif feysydd sydd angen eu gwella.

“Byddwn yn gweithio gyda’r ysgol a’i gorff llywodraethu i nodi’r rhesymau dros ganlyniadau’r arolygiad ac i sicrhau ein bod yn gallu gwneud gwelliannau sylweddol a chyflym.

“Un o flaenoriaethau’r cyngor yw darparu addysg o ansawdd i’n plant a’n pobl ifanc ac rydym yn hyderus y gallwn sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen ar Estyn gyda gwaith caled a chydweithrediad yr ysgol.”