Tinh Van Tran
Mae Heddlu De Cymru, sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn o Fietnam gafodd ei ddarganfod ar dir comin yn Abercynon, wedi dweud nad ydyn nhw’n credu ei fod wedi marw ar y safle lle cafodd ei ddarganfod.

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw, dywedodd yr heddlu hefyd nad oedd arwydd o drawma amlwg i gorff Tinh Van Tran, 41, pan ddaethpwyd o hyd iddo.

Cafodd ei ddarganfod ger Cwrs Golff Whitehall gan aelod o’r cyhoedd tua saith o’r gloch nos Fawrth diwethaf, 2 Rhagfyr.

Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am wybodaeth ac yn dal i geisio dod o hyd i’w deulu, a allai fod yn Fietnam.

Dywed yr heddlu y gallai Tinh Van Tran fod a chysylltiadau gyda’r gymuned Feitnamaidd yn Llundain a Birmingham. Deellir ei fod wedi byw yn y DU ers dwy flynedd.

Apêl

Cyhoeddodd yr heddlu’r wythnos diwethaf fod Tinh Van Tran, a oedd yn 5’5’’ o daldra, yn gwisgo siaced ddu drwchus, trowsus tracsiwt lwyd, trainers Adidas gwyn a sgarff siec frown a du pan gafodd ei ddarganfod.

Mae’r heddlu’n aros am ragor o brofion er mwyn ceisio darganfod sut y bu farw. Ar hyn o bryd maen nhw’n trin ei farwolaeth fel un “anesboniadwy.”

Dywedodd y Prif Arolygydd Ceri Hughes: “Rydym ni wedi llwyddo i ddod o hyd i lun o Tinh Van Tran – mae’n bwysig i’n hymchwiliad bod pobl yn gallu cysylltu ei wyneb a’r enw. Y gobaith yw y bydd hyn yn ein helpu i adnabod teulu’r dyn, y credir sydd yn Fietnam, ac rydym yn gobeithio y byddan nhw’n gallu dweud wrthym pam ei fod yn ne Cymru.

“Rydym yn dal i apelio ar unrhyw un a allai fod wedi ei adnabod neu sy’n credu eu bod wedi ei weld i gysylltu â ni.”

Corff ‘heb ei guddio’

Ychwanegodd yr heddlu nad oedd unrhyw ymgais wedi bod i guddio corff Tinh Van Tran a’i fod wedi ei adael ger y ffordd.

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Ceri Hughes: “Nid ydym yn credu ei fod wedi marw ar y safle ac mae’n debyg fod pwy bynnag oedd wedi ei adael yno am iddo gael ei ddarganfod.

“Hoffwn wneud apêl uniongyrchol i’r rhai oedd yn gysylltiedig i gysylltu â ni, gan ddefnyddio llinell ffon Taclo’r Taclau yn ddienw os ydy hynny’n well ganddyn nhw.”

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 02920 571 530 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.