Madeleine McCann
Mae swyddogion sy’n ymchwilio i ddiflaniad Madeleine McCann yn bwriadu dechrau holi 11 person sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r achos.
Credir fod heddlu o Brydain sy’n rhan o’r ymchwiliad wedi cyrraedd yr Algarve ym Mhortiwgal er mwyn bod yn rhan o’r cyfweliadau.
Mi fydden nhw’n treulio tri diwrnod yn holi gyda’u cyd-swyddogion ym Mhortiwgal, yn ôl adroddiadau.
Fis Mehefin bu swyddogion yr heddluoedd Prydeinig, gan gynnwys Heddlu De Cymru, yn chwilio tri darn o dir yn ardal Praia da Luz ger y safle lle diflannodd y ferch fach ym Mhortiwgal.
Ond ni ddaeth tystiolaeth newydd i’r fei.
Diflannodd Madeleine McCann o fflatiau gwyliau ym Mhortiwgal fis Mai 2007 wrth i’w rheini fwyta mewn bwyty gerllaw.
Fe wnaeth yr heddlu ym Mhortiwgal gau’r ymchwiliad yn 2008 ond fe wnaeth Heddlu’r Metropolitan lansio ymchwiliad dair blynedd yn ddiweddarach.