Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo pedwar person yng Ngwynedd ddoe, fel rhan o ymgyrch i leihau’r defnydd o gyffuriau yn y sir.
Fel rhan o Ymgyrch Scorpion, cafodd dyn 18 oed o Borthmadog a dynes 27 oed o’r un ardal eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B. Fe gafodd dyn 19 oed o Bwllheli a dyn 23 o Flaenau Ffestiniog hefyd eu harestio.
Mae’r pedwar wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fydden nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ar 22 Rhagfyr.
Ymchwiliad
Daw’r newyddion wedi i 18 o bobol eraill gael eu harestio dros gyfnod o bythefnos ym Mangor, Llangefni, Sir Gaer a Manceinion fel rhan o’r un ymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Arwyn Jones: “Tra bod rhai yn ein cymunedau yn parhau i gyflawni’r troseddau hyn, mi fyddwn ni’n parhau gyda’r ymchwiliad.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â phobol sy’n cyflenwi neu’n creu cyffuriau yng ngogledd Cymru i gysylltu â’r heddlu ar 101.