Mae uwch swyddog UKIP wedi gwadu honiad ei fod wedi aflonyddu’n rhywiol un o ymgeiswyr seneddol benywaidd mwyaf amlwg y blaid.
Mae UKIP wedi gwahardd Roger Bird o’i swydd fel ysgrifennydd cyffredinol y blaid tra’u bod nhw’n ymchwilio mewn i honiadau o amhriodoldeb.
Cadarnhaodd UKIP bod ymchwiliad wedi cael ei lansio i’r honiadau a wnaed gan Natasha Bolter – wnaeth symud o’r Blaid Lafur at UKIP mewn tân o gyhoeddusrwydd ym mis Medi.
Dywedodd Natasha Bolter wrth bapur newydd y Times fod Roger Bird wedi gwneud cynnig iddi ar ôl ei gwahodd am ginio yn ei glwb preifat yn Llundain – ar yr un diwrnod wnaeth o’i chyfweld hi fel darpar ymgeisydd seneddol.
Mae Natasha Bolter hefyd wedi gwadu bod unrhyw berthynas personol wedi digwydd rhwng y ddau, ond dywedodd Roger Bird wrth y BBC fod y pâr wedi cael perthynas byr ar ôl iddi gael ei derbyn ar restr UKIP o ymgeiswyr Seneddol.
Mae Roger Bird wedi gwadu’r holl honiadau yn ei erbyn.
Mae adroddiadau hefyd fod Natasha Bolter bellach wedi gadael y blaid ar ôl i’r Times adrodd ei bod hi wedi tynnu allan o’r hystings i fod yn ymgeisydd seneddol y blaid ar gyfer etholaeth De Basildon.
Dywedodd llefarydd ar ran UKIP fod yr honiadau yn cael eu cymryd “o ddifrif”.