Sinema Scala, Prestatyn
Fe fydd cynghorwyr yn Sir Ddinbych yn cynnal cyfarfod heddiw i drafod ffyrdd o geisio arbed dros £17 miliwn yng nghyllideb y cyngor.
Ond mae gweithwyr o undeb Unite sy’n gwrthwynebu’r toriadau arfaethedig yn bwriadu cynnal protest y tu allan i Ganolfan Gelfyddydau a Sinema’r Scala ym Mhrestatyn.
Mae’r cyngor yn argymell y dylid sgrapio grant o £41,000 i’r Scala yn 2015.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Hamdden: “Mae’r Cyngor wedi bod yn gwbl gefnogol i’r Scala fel cyfleuster celfyddydau a sinema ar gyfer y gymuned leol ers blynyddoedd lawer.
“Er gwaethaf ein holl ymdrechion i gefnogi’r Scala, ymddengys bod y cwmni mewn sefyllfa ariannol anghynaladwy.”
Ychwanegodd Rebecca Maxwell, Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol, na all y Cyngor “barhau i beryglu symiau mawr o arian i fod yn sail i ddiffyg ariannol y Scala.”
Ymgynghoriad
Ond mae Unite o’r farn nad yw’r cyngor wedi cynnal ymgynghoriad digon manwl nac wedi gwneud digon i annog trafodaeth gyda staff.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio dod o hyd i arbedion o £20 miliwn ac mae newidiadau i lanhau strydoedd, gwasanaethau bysus, cartrefi gofal a chasglu gwastraff garddio eisoes wedi cael eu crybwyll.