Oscar Pistorius
Fe fydd yr erlynydd yn achos Oscar Pistorius yn dadlau yn erbyn hyd y ddedfryd a gafodd yr athletwr am saethu ei gariad, Reeva Steenkamp.
Yn y llys yn Ne Affrica heddiw, fe fydd Gerrie Nel yn amlinellu ei wrthwynebiad i benderfyniad y barnwr i beidio â chael Oscar Pistorius yn euog o lofruddio Reeva Steenkamp, wedi iddo ei saethu yn eu cartref y llynedd.
Mae wedi dweud bod cosb yr athletwr, gafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar am gyhuddiad llai o ddynladdiad, yn “syfrdanol o amhriodol”.
Mae’r erlyniad yn credu y dylai Pistorius wynebu o leiaf 15 mlynedd yn y carchar.
Roedd ymgyrchwyr hawliau menywod hefyd wedi beirniadu penderfyniad y llys a gyhoeddwyd ym mis Hydref eleni.