Llifogydd yn Aberystwyth ym mis Ionawr
Bydd Gweinidog Cyllid a Busnes Llywodraeth Cymru, Jane Hutt yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gwerth £150 miliwn ar gyfer diogelu ardaloedd dan fygythiad llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru heddiw.
Bydd y cynllun yn codi amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol o 2018 ymlaen.
Daw hyn yn dilyn y stormydd eithafol a ddioddefwyd yn gynharach eleni, pan gafodd nifer o amddiffynfeydd eu chwalu ar hyd yr arfordir.
‘Ymateb i’r her’
Wrth lansio’r buddsoddiad newydd, dywedodd Jane Hutt: “Mae sicrhau amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol effeithiol yn flaenoriaeth i ni ac awdurdodau lleol.
“Does dim amheuaeth y bydd tywydd garw yn parhau i daro’r amddiffynfeydd hyn yn y dyfodol. Rydym yn ymateb i’r her drwy feddwl ymlaen, bod yn strategol a chynllunio at y dyfodol.”
Ychwanegodd: “Dyna pam fy mod i yn cyhoeddi’r buddsoddiad pwysig hwn a ddaw yn dilyn y cyllid cyfalaf a refeniw o £245 miliwn yr ydym eisoes wedi’i ymrwymo yng nghyfnod y Llywodraeth hon.”
‘Diogelu cymunedau’
Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: “Mae lleihau effeithiau llifogydd a chadw’n cymunedau yn ddiogel yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon.
“Mae hyn eisoes i’w weld yn ein buddsoddiad sylweddol dros dymor y Llywodraeth hon, sydd wedi’i ategu gan £7.2 miliwn i atgyweirio a gwella amddiffynfeydd arfordirol yn dilyn stormydd y llynedd.
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i edrych tua’r dyfodol, ac mae’r cyhoeddiad heddiw i’w groesawu gan gymunedau arfordirol ledled Cymru.”