Mae arbenigwyr o’r Swyddfa Dywydd yn darogan y gall gwyntoedd o hyd at 80 milltir yr awr daro Cymru heno, ac maen nhw’n cynghori pobol yn y gogledd i fod yn wyliadwrus.

Fe fydd rhybudd melyn mewn grym yng ngogledd Cymru, yr Alban, gogledd Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda disgwyl i’r tywydd garw barhau tan ddydd Gwener.

Daw’r gwyntoedd cryfion yn sgil gwasgedd isel sy’n symud i’r dwyrain rhwng yr Alban a Gwlad yr Ia. Ar ôl ysbaid fer dydd Iau, mae disgwyl i storm arall o Fôr yr Iwerydd daro ddydd Gwener.

Mae peryg o lifogydd ar y ffyrdd ac mewn mannau arfordirol, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

“Fe all y rhybudd melyn fydd mewn grym o 9yh heno tan 6 fore dydd Iau gyda gwyntoedd rhwng 60-70mya, a 70-80mya mewn ardaloedd agored,” meddai’r swyddog Kirk Waite.