Mae Tesco wedi rhybuddio y bydd elw’r cwmni archfarchnad yn llawer llai na’r disgwyl.

Dywed y cwmni na fydd elw’r cwmni am y flwyddyn hyd at fis Chwefror yn fwy na £1.4 biliwn, o’i gymharu â rhagolygon y Ddinas y byddai’n fwy na £2 biliwn.

Dywedodd prif weithredwr newydd Tesco, Dave Lewis, bod y rhybudd diweddaraf yn adlewyrchu effaith y camau gafodd eu cymryd i ad-drefnu’r grŵp yn sgil yr helynt gyda’u cyfrifon ym mis Medi.

Fe ddatgelodd y cwmni bryd hynny ei fod wedi goramcangyfrif ei elw o £250 miliwn.