Shrien Dewani gyda'i wraig Anni
Mae Shrien Dewani yn rhydd i ddychwelyd i’r DU ar ôl i farnwr yn Ne Affrica benderfynu peidio parhau a’r achos yn ei erbyn.
Roedd y gŵr busnes o Westbury-on-Trym ger Bryste wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i lofruddio ei wraig, Anni Dewani, ar eu mis mel yn Cape Town.
Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad dywedodd y barnwr Jeanette Traverso bod tystiolaeth prif dyst yr erlyniad, y gyrrwr tacsi Zola Tongo, yn “anghyson” ac na ellir dibynnu arno.
Ond mae methiant yr achos wedi siomi teulu Anni Dewani. Dywedodd ei chwaer Ami Denborg eu bod nhw wedi aros pedair blynedd i’r achos gael ei ddwyn yn erbyn Dewani, 34, a’u bod nhw’n dal i aros am atebion ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd.
Cafodd Anni Dewani ei saethu’n farw mewn tacsi yn Cape Town tra bod ei gwr wedi’i ryddhau’n ddianaf.
Mae tri dyn – Tongo, Mziwamadoda Qwabe a Xolile Mngeni – eisoes wedi’u cael yn euog am eu rhan yn y llofruddiaeth.