gwefan ffrwti.com
Rhodri ap Dyfrig sy’n esbonio’r fenter newydd i geisio casglu cynnwys y Cymry ar Twitter …

Llai na mis yn ôl fe aeth ffrwti.com ar-lein gan ddefnyddio digwyddiad Hacio’r Iaith fel man cychwyn ar y daith. Rydyn ni wedi cael croeso cynnes gan nifer ers hynny ond dwi’n siŵr bod rhai’n dal i bendroni – beth yw Ffrwti?

I ddechrau dyma ‘chydig o gefndir. Yn 2010 daeth www.codesyntax.com, cwmni o Wlad y Basg, a minnau ynghyd i geisio addasu gwefan Fasgeg i’r Gymraeg. Umap oedd enw’r wefan ac roedd hi’n tynnu trydariadau allan o Twitter gan greu ffrwd Twitter gyfan gwbl Gymraeg.

Er iddi gael dipyn o lwyddiant ar y pryd roedd hi’n amhosibl ei chynnal na’i datblygu heb unrhyw arian ac yn sgil hynny cafodd y wefan ei chau.

Ond yn ddiweddar daeth y cyfle i geisio am grant gan gronfa dechnoleg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, ac roedden ni’n ffodus i allu datblygu ar syniad Umap a’i droi’n rhywbeth llawer gwell.

Dros y misoedd diwethaf felly rydym ni wedi bod yn adeiladu Ffrwti gan greu rhywbeth rydyn ni’n meddwl sydd yn cyflawni llawer mwy na dim ond casglu trydar Cymraeg mewn un lle.

Bwriad Ffrwti

Dyma dri bwriad Ffrwti felly:

1.  Amlygu defnydd y Gymraeg ar Twitter

2.  Rhoi gwell sylw i ddeunydd Cymraeg ar y we yn ehangach

3.  Rhoi llwyfan newydd ar y we i gyhoeddi annibynnol Cymraeg

Yn syml mae Ffrwti’n le i fynd ar gyfer gweld y straeon a’r pynciau llosg diweddaraf sy’n cael eu trafod ar y we Gymraeg. Os yw’n destun sgwrs ar Twitter, yna byddwn ni’n ei gyhoeddi’n awtomatig a gwneud yn siŵr nad ydych chi’n methu unrhyw beth gwerth chweil ar y we Gymraeg.

Eisiau gwybod beth oedd pobl yn trafod ar Twitter ddoe?

Ewch i’r dudalen Trendio ac fe welwch y deg hashnod mwyaf poblogaidd ymysg trydarwyr Cymraeg dros yr oriau a’r diwrnodau diwethaf.

Dyfalu beth oedd y prif straeon oedd yn gwneud y rownds?

Ewch i dudalen Ffrwti Bot ar gyfer gweld cofnodion sydd wedi eu cynhyrchu’n awtomatig, yn tynnu sylw at gynnwys y dolenni sy’n cael eu rhannu a’u trafod fwyaf ar Twitter y diwrnod hwnnw.

Am weld erthyglau gwreiddiol gan olygyddion a chymuned Ffrwti?

Ewch i dudalen Ffrwti Ni lle cewch yr erthyglau a chofnodion diweddaraf gan ddefnyddwyr Ffrwti a’r golygyddion.

Ceisio darganfod trydarwyr Cymraeg?

Edrychwch ar ein rhestr ni o’r trydarwyr Cymraeg mwyaf diddorol.

Agored i bawb

Gall unrhyw un sydd â chyfrif Twitter hefyd gyhoeddi ar Ffrwti Ni. Efallai nad oes gennych chi flog ond eisiau cyhoeddi rhywbeth hirach na thrydariad, neu eisiau cyhoeddi newyddion eich sefydliad.

Gallwch fewngofnodi i Ffrwti gyda Twitter a chyhoeddi yn adran Ffrwti Ni. P’un ai ydych chi eisiau hyrwyddo digwyddiad, ysgrifennu darn barn, neu greu cyfres o erthyglau am bwnc, mae hwn yn llwyfan agored i chi gyhoeddi arno.

Mae modd hefyd cael Ffrwti i ddod atoch chi drwy e-bost dyddiol er mwyn gwneud yn siŵr na fethwch chi unrhyw beth!

Ein gobaith yw y bydd Ffrwti’n fodd i gyfoethogi’r profiad o ddefnyddio’r Gymraeg ar y we ac i roi gofod newydd i gyhoeddwyr annibynnol. Rhowch gynnig arni!

Gallwch ddilyn Ffrwti a Rhodri ap Dyfrig ar Twitter ar @ffrwti a @Nwdls.