Y bleidlais i ethol Prif Weinidog nesaf Cymru wedi cau

Fydd yr ennillydd ddim yn dechrau yn ei rôl yn syth, gan fod angen cynnal pleidlais yn y Senedd a derbyn sêl bendith Brenin Lloegr yn gyntaf

Galw am drafodaeth ynghylch dyfodol pont droed boblogaidd a phwysig

“Mae pentref Trawsfynydd yn gryf o’r farn fod cau’r bont yn cael effaith andwyol,” meddai Liz Saville Roberts
Y cyn-arlywydd yn annerch ar deledu

Pleidiau annibyniaeth Catalwnia’n gwrthod clymbleidio â’r Sosialwyr

Yn ddibynnol ar ddyddiad cyhoeddi’r Bil Amnest, gallai’r cyn-arlywydd Carles Puigdemont sefyll unwaith eto ar ôl bod yn alltud

Ymddygiad Rhys ab Owen “yn llawer is na’r safon a ddisgwylir”

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru wedi ymddiheuro yn dilyn cwynion am ei ymddygiad yn ystod noson allan

Ysgrifennydd Cymru yn disgrifio Wrecsam fel rhan o “dde Cymru” yn Nhŷ’r Cyffredin

“Dylai Ysgrifennydd Cymru dreulio llai o amser yn rhefru a mwy o amser yn gwella’i afael ar ddaearyddiaeth y wlad y mae’n ei chynrychioli”

Ymchwiliad Covid: Mark Drakeford yn beirniadu llywodraeth Boris Johnson

Clywodd yr ymchwiliad hefyd bod cyn-Weinidog Addysg Cymru wedi bwriadu sefyll lawr dros ganlyniadau arholiadau “annheg”

“Digyffelyb”: Llywodraeth Cymru’n mynd i’r afael â pherchnogaeth ail gartrefi

Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi datganiad ar y mater

Rhaid i’r Ceidwadwyr ddychwelyd arian Frank Hester “ar unwaith”

Alun Rhys Chivers

“Roedd y Blaid Dorïaidd yn meddwl ei bod yn deg i dderbyn rhodd o £10m ganddo flynyddoedd yn ddiweddarach,” meddai Liz Saville Roberts
Baner yr Alban

Llythyr agored yn mynegi dicter tros ddileu cyllid i Aeleg yr Alban

Roedd yr arian wedi’i ddefnyddio gan Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd yr Iaith Aeleg) ers 2021 i gyflogi swyddogion datblygu ledled yr Alban

Croesawu cynigion i wella cydbwysedd rhywedd y Senedd

Cadi Dafydd

“Nid [diffyg] teilyngdod sydd yn golygu nad yw menywod yn cael eu cynrychioli mewn gwleidyddiaeth, ond rhwystrau hanesyddol a systemig”