Llongau’r Llynges ar batrôl yn Jersey yn dilyn ffrae ôl-Brexit am hawliau pysgota
Mae pryderon am flocâd posib o’r ynys wedi anghydfod gyda Ffrainc
Gorsafoedd pleidleisio’r Alban wedi agor ar gyfer Etholiad Holyrood
Yn sgil rheolau diogelwch Covid, gallai gymryd mwy na 48 awr cyn i’r holl ganlyniadau gael eu cyfri yno
Pleidleisio’n mynd rhagddo yn Etholiad y Senedd
Dyma’r tro cyntaf i bobol 16 ac 17 oed gael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd
Llafur yn blaid fwyaf, ond yn brin o fwyafrif – pôl Savanta ComRes
Y pôl hefyd yn gofyn am annibynaeth, a’r canlyniadau y tro hwn, ac eithrio ‘ddim wedi penderfynu’, oedd 65% yn erbyn a 35% o blaid
Cyn-ymgeisydd Llafur yn annog pobol i bleidleisio dros Blaid Cymru yn Aberconwy
Dywedodd Aaron Wynne, ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, fod “hon yn ras eithriadol o dynn”
Y Ceidwadwyr yn ennill tir yn nyddiau olaf yr ymgyrch etholiadol, yn ôl pôl piniwn ITV Wales
Awgryma’r pol y gallai’r Blaid Lafur ennill yr un faint o’r bleidlais ag yn yr etholiad diwethaf, ond colli seddi i’r Ceidwadwyr
Arweinwyr y pleidiau’n ymweld ag etholaethau allweddol ar ddiwrnod olaf yr ymgyrch etholiadol
Bydd pleidiau gwleidyddol Cymru’n gwneud un ymdrech olaf i ennill pleidleisiau heddiw
Pôl yn darogan y gallai’r SNP fod chwe sedd yn brin o fwyafrif yn Holyrood
Savanta ComRes, ar ran The Scotsman, yn darogan y byddan nhw’n ennill 42% o’r bleidlais yn yr etholaethau a 34% o’r bleidlais …
“Pleidlais dros obaith yw pleidlais dros Blaid Cymru,” meddai Adam Price
“Rydyn ni’n gwrthod credu bod unrhyw beth israddol am Gymru sy’n golygu na allwn ni ffynnu fel cenhedloedd annibynnol eraill ledled y byd”
G7: Dominic Raab i drafod “heriau a bygythiadau cynyddol”
Bydd Canada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Japan a’r Undeb Ewropeaidd yn ymuno â’r Deyrnas Unedig i gynnal trafodaethau