Mae’r Ceidwadwyr wedi ennill tir – a mwy o gefnogaeth – yn nyddiau olaf yr ymgyrch etholiadol ar gyfer y Senedd, yn ôl pôl piniwn newydd.
Awgryma pol YouGov, a gafodd ei gomisiynu gan ITV Wales, y gallai’r Blaid Lafur ennill yr un gyfran o’r bleidlais ag y gwnaethon nhw yn yr etholiad diwethaf ond gan ildio seddi i’r Ceidwadwyr.
Yn ôl y pôl, mae gan Blaid Cymru’r un lefel o gefnogaeth â phum mlynedd yn ôl, sy’n golygu y byddai’r blaid yn dod yn drydydd o ran nifer y seddi.
Mae’r pôl yn dangos bod y Ceidwadwyr wedi ennill 5% o’r gefnogaeth yn yr etholaethau ers y pôl diwethaf gan ITV Wales, Llafur wedi ennill 1% o’r gefnogaeth, a Phlaid Cymru wedi colli 4%.
Gallai Bro Morgannwg, Gŵyr, Dyffryn Clwyd a Wrecsam fod o fewn cyrraedd y Ceidwadwyr, yn ôl y canfyddiadau.
Yr etholaethau
Gyda’r newidiadau ers y pol piniwn diwethaf…
Llafur: 36% (+1%)
Ceidwadwyr: 29% (+5%)
Plaid Cymru: 20% (-4%)
Reform UK: 4% (dim newid)
Democratiaid Rhyddfrydol: 3% (dim newid)
Y Blaid Werdd: 2% (dim newid)
Diddymu’r Cynulliad: 2% (dim newid)
Rhestr ranbarthol
Mae’r pôl hefyd yn dangos y gallai Plaid Diddymu’r Cynulliad ennill seddi am y tro cyntaf ar y rhestr ranbarthol, ac mae’n dangos bod y gefnogaeth i UKIP wedi crebachu ers yr etholiad diwethaf yn 2016, pan wnaethon nhw ennill saith sedd gyda 13% o’r gefnogaeth.
Llafur: 31%
Ceidwadwyr: 25%
Plaid Cymru: 21%
UKIP: 3%
Democratiaid Rhyddfrydol: 4%
Y Blaid Werdd: 5%
Diddymu’r Cynulliad: 7%
Byddai’r rhifau hyn yn gweld y Blaid Lafur yn ennill tua 25 sedd, y Ceidwadwyr yn ennill tua 17, Plaid Cymru’n ennill 15, Plaid Diddymu’r Cynulliad yn ennill dwy ar y rhestr ranbarthol, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal eu gafael ar Frycheiniog a Maesyfed.
Gallwch ddefnyddio map gwleidyddol Cymru er mwyn gweld canlyniadau posib ar sail yr arolygon barn, arbrofi gyda’r ffigurau, neu i greu eich map eich hun.