Mae disgwyl i Dominic Raab drafod “heriau a bygythiadau cynyddol” gyda gwledydd eraill y G7 yn ystod trafodaethau wyneb yn wyneb wrth i’r Deyrnas Unedig gynnal cyfarfod cyntaf y gweinidogion tramor ers mwy na dwy flynedd.

Bydd Ysgrifennydd Tramor San Steffan yn arwain trafodaethau ar y berthynas â Rwsia, Tsieina ac Iran heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 4), yn ogystal â’r argyfwng ym Myanmar a thrais yn Ethiopia a Syria, yn ôl y Swyddfa Dramor.

Daw hyn wedi iddo gynnal trafodaethau ag Antony Blinken, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, yn Llundain ddoe (dydd Llun, Ebrill 3), gyda thrafodaethau’n parhau gyda’r prif weinidog Boris Johnson hefyd.

Wrth i’r ddwy wlad sefydlu perthynas newydd yn dilyn ymadawiad Donald Trump â’r Tŷ Gwyn, dywedodd Antony Blinken nad oes gan yr Unol Daleithiau “ddim partner agosach” na’r Deyrnas Unedig.

Bydd gwledydd y G7 yn ymuno â’r Deyrnas Unedig i gynnal trafodaethau, tra bydd y gweinidogion tramor yn cael cinio gyda’r gwledydd gwadd.

Bydd Dominic Raab yn defnyddio’r noson gyntaf i amlinellu gweledigaeth o gydweithrediad rhwng gwledydd y G7 ac Indo-Pacific i ddatblygu cysylltiadau masnach cryfach, sicrhau sefydlogrwydd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Mae llywyddiaeth y Deyrnas Unedig o’r G7 yn gyfle i ddod â chymdeithasau agored, democrataidd at ei gilydd a dangos undod ar adeg pan fo mawr angen mynd i’r afael â heriau a rennir a bygythiadau cynyddol,” meddai cyn y trafodaethau.

“Mae ychwanegu ein ffrindiau o Awstralia, India, Gweriniaeth Korea a De Affrica, yn ogystal â chadeirydd Asean yn adlewyrchu arwyddocâd cynyddol rhanbarth Indo Pacific ar gyfer y G7.”

Bydd gweinidogion G7 yn buddsoddi 15bn o ddoleri (£10.9bn) mewn datblygu cyllid dros y ddwy flynedd nesaf i helpu merched mewn gwledydd sy’n datblygu i gael swyddi, adeiladu busnesau gwydn ac adfer o effeithiau Covid-19.

Mae disgwyl iddyn nhw hefyd ymrwymo i dargedau newydd i gael 40m yn fwy o ferched i’r ysgol, ac 20m yn fwy o ferched yn darllen erbyn 10 oed mewn gwledydd tlotach erbyn 2026.

Ond daw’r ymrwymiadau wrth i Dominic Raab wynebu beirniadaeth am doriadau i gymorth tramor, o 0.7% o’r incwm cenedlaethol i 0.5%, gan nodi effaith ariannol y pandemig fel rheswm.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor wrth gynhadledd ar y cyd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau fod toriadau mewn cymorth wedi bod yn “benderfyniad anodd” ond fod gan y Deyrnas Unedig gyfle o hyd “i fod hyd yn oed yn fwy o rym er lles y byd”.