Apêl Ddyngarol Wcráin yn codi £10.7m mewn llai na mis

“Mae’r swm a godwyd yn dangos yr undod anhygoel sydd gan bobl yma yng Nghymru gyda’r sifiliaid sydd wedi cael eu dal yn yr argyfwng hwn”

“Sgandal” nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn talu am ddiogelu tomenni glo Cymru

“Mae’n amlwg mai San Steffan, a elwodd ar y manteision a’r elw o’r diwydiant glo, ddylai fod yn talu’r bil,” …

Cyngor Cernyw yn galw am ragor o bŵer datganoli

Dywedodd Linda Taylor wrth BBC Radio Cornwall fod y cyngor wedi gwneud cais am “ddatganoli lefel tri” – y lefel uchaf posib
Rhys Howard Hughes

Dirprwy Brif Weithredwr newydd i Gyngor Sir Ynys Môn

Bydd Rhys Howard Hughes yn gweithio ochr yn ochr â’r Prif Weithredwr Dylan J Williams

Canmoliaeth i ddewrder Aelod Seneddol ar ôl iddo gyhoeddi ei fod yn draws

“Dw i wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd a dw i wedi teimlo fel hyn ers oeddwn i’n blentyn ifanc iawn,” medd Jamie Wallis

Aelodau Seneddol yn pleidleisio o blaid ailgyflwyno mesurau ‘draconaidd’ i’r Bil Heddlua

Mae’r Bil Heddlu, Trosedd, Dedfrydau a’r Llysoedd yn “ymosodiad draconaidd yn erbyn ein hawl democrataidd i brotestio”, medd Beth Winter …

20 dirwy wedi partïon Downing Street: “Yn ddiymwad fe wnaeth Boris Johnson ddweud celwydd”

Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud ei dweud am yr helynt

Y Taliban yn gwahardd darllediadau teledu’r BBC mewn tair iaith

Bwletinau newyddion mewn Pashto, Persiaidd ac Uzbek wedi cael eu tynnu oddi ar yr awyr

Ynysoedd Solomon yn llofnodi cytundeb plismona gyda Tsieina

Bydd y Cabinet yn ystyried mesurau diogelwch pellach yn dilyn terfysgoedd tros deyrngarwch yr ynysoedd i Tsieina ar draul Taiwan