Mae hi’n “sgandal” nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn talu’r bil am ddiogelu tomenni glo Cymru, yn ôl Peredur Owen Griffiths.

Wrth siarad yng nghyfarfod llawn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 30), holodd Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â ddiogelwch tomenni glo yn ei ranbarth.

Daw hyn ar ôl i Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £44.4m ar gyfer gwaith cynnal a chadw dros y tair blynedd nesaf.

Fodd bynnag, bydd yn cymryd “blynyddoedd lawer a channoedd o filiynau o bunnoedd” i ddatrys y broblem, medd Peredur Owen Griffiths, sy’n mynnu mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddylai fod yn talu.

“Mae’n amlwg San Steffan, a elwodd o’r manteision a’r elw o’r diwydiant glo, ddylai fod yn talu’r bil,” meddai.

“Mae’n sgandal nad ydynt wedi ymrwymo i wneud hynny.

“Mae’n amlwg bod yn rhaid ailasesu gwaith adfer a ystyriwyd yn dderbyniol ddegawdau yn ôl yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu.”

‘Etifeddiaeth gorffennol diwydiannol Prydain’

“Rwyf yn cytuno’n llwyr fod rôl yma i Lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Lee Waters wrth ymateb.

“Etifeddiaeth gorffennol diwydiannol Prydain yw hyn wedi’r cwbl.

“Cafodd tomenni hyn eu creu cyn i bŵer gael ei ddatganoli i Gymru a rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig chwarae ei rhan wrth gyflawni’r bil hwnnw.

“Credaf fod consensws yn y Siambr ar y mater hwn, yn sicr ar feinciau nad ydyn nhw’n rai Ceidwadol.”

Anghytuno ar ynni

Yn ddiweddarach yn y cyfarfod, holodd Gareth Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, “Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau diogelwch ynni?”

Atebodd Lee Waters drwy ddweud bod gan “Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau diogelwch ynni’r Deyrnas Unedig, a disgwyliwn weithredu beiddgar yn ei strategaeth diogelwch ynni sydd, yn ôl beth dw i’n ddeall, wedi cael ei ohirio eto.

“Yng Nghymru, yr ydym yn cyflymu’r defnydd o ynni adnewyddadwy, gan gefnogi marchnadoedd ynni lleol, cynllunio a threialu arloesedd, hyblygrwydd a storio, i adeiladu system ynni sero-net ar gyfer y dyfodol.”

“Mae ein dibyniaeth ar danwydd a fewnforiwyd yn golygu ein bod yn agored i fygythiadau allanol,” meddai Gareth Davies wedyn.

“Mae Vladimir Putin, ers blynyddoedd, wedi defnyddio’r bygythiad o dorri cyflenwadau i roi pwysau ar ei gymdogion Ewropeaidd.

“Hyd yn oed yn awr, gyda chenhedloedd yr Undeb Ewropeaidd yn cosbi ffederasiwn Rwsia, maent yn dal i bwmpio biliynau i beiriant rhyfel Putin, oherwydd mae angen y nwy a’r olew arnynt.

“Yn ffodus, nid ydym mor agored i niwed, ond mae’r sgil-effeithiau wedi dyblu ein biliau ynni.

“Ddirprwy Weinidog, mae’r sefyllfa hon wedi tynnu sylw at yr angen am annibyniaeth ynni, gan gynnwys yr angen am bŵer niwclear newydd, fel y soniwyd mewn cwestiynau blaenorol.

“Wrth gwrs, bydd llawer o’r gwaith sydd ei angen yn gofyn am arweiniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru arwain o ran storio ynni, gan alluogi gwell defnydd o’n hynni adnewyddadwy.

“Sut y mae eich Llywodraeth yn gweithio gyda’r diwydiant i greu gwell atebion storio ynni yma yng Nghymru?”

‘Nid ynni niwclear yw’r ffordd ymlaen’

Ond nid ynni niwclear yw’r ffordd ymlaen, yn ôl Lee Waters.

“Rwy’n cytuno fod storio ynni yn sicr yn un o’r pethau y mae angen inni fod yn ei gyflymu, ac yn sicr, mae potensial o hydrogen gwyrdd i weithredu fel ffynhonnell ar gyfer dal yr ynni hwnnw a storiwyd,” meddai.

“Ond eto, mae gennym gyfraniad gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma sy’n canolbwyntio ar niwclear ac ychydig iawn o bwyslais a gafwyd ar ynni adnewyddadwy.

“Mae hyn yn fy nrysu o ystyried yr hyn yr ydym wedi bod yn ei glywed ganddynt am yr angen am ddiogelwch ynni ac am gwrdd â’n targed sero net.

“Rwy’n gobeithio nad oes dall ideolegol o ran ynni adnewyddadwy; rydym wedi gweld hynny’n ymarferol gyda’r moratoriwm ar wynt ar y tir sydd wedi bod ar waith dros y deng mlynedd diwethaf, sydd wedi bod yn gyfle enfawr a gollwyd.

“Pe bai hynny wedi bod ar waith yn awr, ni fyddem yn wynebu’r un perygl yr ydym yn ei wynebu yn sgil y rhyfel yn Wcráin, felly mae rhywfaint o fai ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am eu dallineb i ynni adnewyddadwy.

“Rydym yn awr yn clywed y Canghellor yn sôn am ddefnyddio ynni niwclear ar frys; pe byddent wedi cael yr un agwedd ynglŷn â defnyddio ynni adnewyddadwy, ni fyddem yn wynebu’r argyfwng ynni yr ydym yn awr.

“Ac eto, yn y gyllideb, datganiad y gwanwyn, clywsom y Canghellor yn cyhoeddi toriad yn y dreth ar danwydd, sy’n doriad treth tanwydd ffosil, ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £31m mewn prosiect ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn, sef y grant mawr olaf o gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae llawer yn y blaid gyferbyn wedi pleidleisio i ddod a hyn i ben.

“Felly, nid ydynt wedi ein rhoi yn y sefyllfa i allu wynebu’r argyfwng ynni hwn gyda hyder, a gobeithiaf y byddant yn cydnabod y camgymeriadau maen nhw wedi’u gwneud.”