Mae’r Taliban wedi gwahardd bwletinau newyddion y BBC rhag cael eu darlledu yn Affganistan mewn tair iaith.

Dydy’r Taliban ddim wedi ymateb, ond mae BBC World Service yn dweud bod eu bwletinau mewn Pashto, Persiaidd ac Uzbek wedi cael eu tynnu oddi ar yr awyr.

Mae llefarydd ar ran BBC World Service yn galw am wyrdroi’r gwaharddiad, gan ddweud ei fod yn “ddatblygiad pryderus”.

Mae mwy na chwe miliwn o drigolion Affganistan yn cael mynediad i wasanaethau newyddion y BBC bob wythnos.

Ond ers i’r Taliban ddod i rym fis Awst y llynedd, mae grwpiau hawliau a newyddiadurwyr wedi bod yn mynegi pryder am ymosodiadau ar ryddid barn yn y wlad, ac mae’r Cenhedloedd Unedig wedi eu beirniadu nhw am arestio newyddiadurwyr.

Ond mae’r Taliban yn dweud na fyddan nhw’n cosbi unrhyw un sy’n anghydweld â’r gwaharddiad a’u penderfyniad i ddilyn cyfreithiau Islamaidd a thraddodiadau Affganistan, er y bydd unrhyw ymosodiadau arnyn nhw’n destun ymchwiliad.