Mae Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru wedi addo rhoi lleisiau preswylwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ar ddiogelwch adeiladau.
Daw addewid Julie James wrth i waith ddechrau i ddarparu rhaglen gwerth £375m i fynd i’r afael â materion diogelwch adeiladau, sy’n mynd tu hwnt i osod cladin newydd yn unig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu manylion cyntaf Cynllun Cymorth Lesddeiliaid newydd, cynllun i helpu pobol sy’n cael trafferthion ariannol ac sy’n methu â gwerthu eu heiddo oherwydd costau cynyddol sy’n gysylltiedig â materion diogelwch tân hefyd.
Bydd ceisiadau am gymorth yn agor ym mis Mehefin, a bydd yn rhoi’r opsiwn i lesddeiliaid cymwys werthu eu heiddo, a lle bo’n briodol, naill ai symud ymlaen neu rentu’r eiddo yn ôl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr yn y sector tai i nodi llwybr priodol ar gyfer prisio eiddo, gyda meini prawf cymhwystra clir i greu proses gynhwysfawr o brynu eiddo ar gyfer lesddeiliaid.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau’r manylion, cwblhau’r gwiriadau cyfreithiol a sefydlu cytundebau cyn i’r cynllun gael ei lansio.
‘Ymarferol a hygyrch’
Dywed Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, eu bod nhw wedi bod yn gweithio’n galed ar ddull adeilad cyfan o ymdrin â diogelwch adeiladau – “i ddiwygio safonau ac atgyweirio diffygion” – mewn adeiladau dros 11 metr.
“Mae hyn yn rhoi diogelwch pobol yn gyntaf ac mae’n fwy cymhleth a chynhwysfawr na dull sy’n delio â chladin yn unig. Mae hyn hefyd yn ei gwneud yn ddrytach,” meddai Julie James.
“Credwn y dylai datblygwyr gyfrannu tuag at y gost o ddatrys y problemau hyn. Ni ddylai lesddeiliaid a phreswylwyr orfod talu’r bil.
“Rydym wedi dyrannu £375m dros y tair blynedd nesaf i fuddsoddi mewn gwaith diogelwch adeiladau, ac wrth i ni symud ymlaen gyda’r gwaith hwn byddwn yn parhau i wrando ar breswylwyr a lesddeiliaid ac yn rhoi eu lleisiau wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
“Rwyf am sicrhau bod ein diwygiadau o ran diogelwch adeiladau yn ymarferol ac yn hygyrch. Mae’n bwysig bod pobol yn gallu gweld a deall manteision y diwygiadau y byddwn yn eu cyflawni yng Nghymru.”
Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, sy’n talu am arolygon diogelwch tân, wedi nodi bod angen arolygon mwy helaeth ac ymwthiol ar gyfer dros 100 o adeiladau y maen nhw wedi’u gwirio.
Bydd yr arolygon, sydd ar y gweill, yn arwain at adroddiad manwl fydd yn nodi’r gwaith sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â diffygion tân.
Erbyn yr haf, bydd arweinydd strategol wedi cael ei benodi i arwain y Tîm Arolygu ar y Cyd – sef grŵp amlddisgyblaethol a fydd yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac awdurdodau tân ac achub i godi safonau.
Mae diwygio’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch adeiladau a chyflwyno ail gam Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.