Bydd adnodd newydd i helpu pobol LHDTC+ hŷn sydd wedi profi cam-drin domestig yn cael ei lansio’r wythnos hon.

Nod y pecyn adnoddau gan Menter Dewis Choice, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr sy’n gweithio gyda dioddefwyr-oroeswyr LHDTC+ hŷn.

Ffilm ddogfen fer yw’r adnodd cyntaf, Do You See Me?, a gafodd ei chyd-gynhyrchu gan bedwar ar ddeg o ddiodeddwyr-oroeswyr hŷn o’r gymuned.

Mae’r ffilm yn taflu goleuni ar brofiadau pedwar person o’r gymuned LHDTC+ hŷn sydd wedi profi cam-drin domestig.

Mae’r ail ffilm, Hidden Voices, yn ffilm fer i ymarferwyr sy’n codi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig o fewn perthnasoedd LHDTC+ hŷn, gan roi cyngor ymarferol ar sut i ymateb yn briodol.

Ynghyd â hynny, mae’r pecyn yn amlinellu natur a chyffredinedd cam-drin domestig mewn perthnasoedd LHDTC+, gan edrych ar y rhwystrau sy’n atal pobol rhag cael cymorth, cefnogaeth, a chyfiawnder.

‘Arf pwysig’

Dywedodd Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd Menter Dewis Choice a Chyfarwyddwr Canolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth bod ymchwil yn dangos bod pobol LHDTC+, fel grŵp, yn profi camdriniaeth ar yr un gyfradd neu ar gyfraddau uwch na phobol heterorywiol.

Er hynny, mae dioddefwyr LHDTC+ yn cael eu tangynrychioli’n aml o fewn ymchwil, polisi, ac ymarfer, meddai.

“Mae’r adnodd newydd hwn yn arf pwysig i ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl LHDTC+ hŷn sydd yn neu sydd wedi dioddef cam-drin domestig, ac mae’r cynnwys wedi’i lywio’n uniongyrchol gan brofiadau byw pobl o geisio cymorth ac ymarferwyr arbenigol,” meddai Sarah Wydall.

“Nawr am y tro cyntaf, bydd ymarferwyr yn gallu cael cyngor ymarferol ynghylch sut i ymateb yn briodol i ddatgeliadau o gam-drin domestig gan bobl LHDTC+ hŷn, a gwybodaeth a chyngor ar sut i’w cynorthwyo’n effeithiol.”

Mae’r adnodd yn rhoi arweiniad i ymarferwyr ar sut i ymateb yn effeithiol, ar lefel unigol a sefydliadol, ac yn trafod gwerth mabwysiadu dull amlasiantaeth o gefnogi anghenion dioddefwyr-oroeswyr LHDTC+ hŷn.

Gwaith Menter Dewis Choice yw cyfuno darparu gwasanaeth ag ymchwil, gan weithio i gynnig gwasanaeth unigryw ac wedi’i deilwra ar gyfer phobl hŷn sydd wedi profi cam-drin domestig.

Bydd yr adnodd yn cael ei lansio ar-lein ddydd Mercher (Mawrth 30), ac mae’r ymchwil yn y maes wedi cael ei ariannu gan y Gronfa Gymunedol Genedlaethol a’i wneud dan arweiniad Sarah Wydall, Rebecca Zerk, ac Elize Freeman.