Bydd profion llif unffordd am ddim i brofi aelodau o’r cyhoedd sy’n asymptomatig yn rheolaidd yn dod i ben yng Nghymru ddydd Iau (Mawrth 31).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer gwneud newidiadau i’r gwasanaeth profi ac olrhain heddiw (Mawrth 28) fel rhan o’u cynlluniau i symud yn raddol y tu hwnt i ymateb brys i’r pandemig.

O ddydd Gwener ymlaen (Ebrill 1), dylai pobol â symptomau Covid ddefnyddio prawf llif unffordd i weld os oes ganddyn nhw’r ferirws a bydd modd eu harchebu nhw ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu drwy ffonio 119.

Mae’r gofyniad cyfreithiol i hunanynysu wedi dod i ben heddiw, ond mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gynghori’n gryf fod pawb yn hunanynysu os oes ganddyn nhw symptomau Covid neu os ydyn nhw’n profi’n bositif.

Bydd profion asymptomatig rheolaidd mewn lleoliadau gofal plant ac addysg, ac eithrio darpariaeth addysg arbennig, yn dod i ben ddiwedd y tymor hefyd (Ebrill 8).

Daeth y gofyniad cyfreithiol i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus i ben heddiw hefyd, er y bydd canllawiau’n cael eu cryfhau i gynghori pobol i barhau i wisgo mygydau ym mhob lle cyhoeddus.

Mae’r prif newidiadau i’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu Cymru’n cynnwys:

  • Bydd pobol yn cael eu cynghori’n gryf i hunanynysu os oes ganddyn nhw Covid, yn hytrach na’i fod yn ofyniad cyfreithiol, o heddiw (Mawrth 28) ymlaen. Bydd taliadau cymorth hunanynysu o £500 yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.
  • Dydd Mercher (Mawrth 30) yw’r diwrnod olaf y gall y cyhoedd archebu prawf PCR os oes ganddyn nhw symptomau.
  • Bydd pob safle profi PCR yng Nghymru yn cau ddydd Iau (Mawrth 31).
  • Bydd profion llif unffordd am ddim i brofi pobol asymptomatig yn rheolaidd mewn gweithleoedd yn dod i ben ddydd Iau (Mawrth 31), ac eithrio ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Bydd profion llif unffordd am ddim i brofi aelodau o’r cyhoedd sy’n asymptomatig yn rheolaidd yn dod i ben ddydd Iau (31 Mawrth).
  • O ddydd Gwener (1 Ebrill) ymlaen, dim ond pobl sy’n gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19fydd yn gallu archebu profion PCR i’w gwneud gartref.
  • Bydd profion asymptomatig rheolaidd mewn lleoliadau gofal plant ac addysg, ac eithrio darpariaeth addysg arbennig, yn dod i ben ar ddiwedd y tymor (8 Ebrill).

Newidiadau mewn cartrefi gofal

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i drefniadau profi a mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn cartrefi gofal heddiw hefyd.

Yn ogystal, maen nhw’n dweud y glir y dylid croesawu ac annog ymweliadau i gartrefi gofal.

Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, bydd profion llif unffordd am ddim yn parhau i fod ar gael i staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen gan y sefydliadau y maent yn gweithio iddynt, fel y gallant wneud prawf ddwywaith yr wythnos.

Ni fydd hi’n ofynnol i weithwyr cartrefi gofal wneud profion PCR wythnosol, mwyach.

Bydd gofalwyr di-dâl sy’n gofalu am bobol sy’n agored yn glinigol hefyd yn gallu cael profion llif unffordd drwy eu hawdurdodau lleol.

Ni ddylai darparwyr cartrefi gofal osod cyfyngiadau ar nifer yr ymwelwyr, hyd ymweliadau na pha mor aml maent yn digwydd.

Dylai ymwelwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld ddarparu tystiolaeth o ganlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn 24 awr cyn yr ymweliad, a bydd profion yn cael eu darparu am ddim i gartrefi gofal fel eu bod nhw’n gallu eu rhoi i ymwelwyr.

Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal am y tair wythnos nesaf.

Bydd nifer yr ‘ymwelwyr hanfodol’ sy’n cael eu caniatáu yn ystod brigiad o achosion Covid yn cynyddu i ddau hefyd, a byddan nhw’n cael ymweld naill ai ar wahân neu ar yr un pryd.

Fe fydd hi’n bosib llacio mesurau cadw pellter cymdeithasol i staff gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal a phobol sy’n cael gofal gartref pan nad oes tystiolaeth bod Covid-19 yn cylchredeg.

Os bydd nifer o achosion o Covid neu frigiad o achosion, fe fydd hi’n bosub ailgyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol i leddfu’r risg.

‘Y pethau bychain yn bwysicach fyth’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod y newidiadau hyn yn rhan o gamau “i symud yn raddol y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig a dechrau byw’n ddiogel gyda coronafeirws”.

“Byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn barod a’n bod yn gallu ymateb i unrhyw amrywiolion newydd neu frigiadau o achosion wrth inni gamu ymlaen tuag at y dyfodol newydd hwn,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’n bwysig bod pobl yn cofio nad yw coronafeirws wedi diflannu.

“Mae popeth yr ydyn ni’n ei wneud – yr holl bethau bychain yr ydyn ni wedi dysgu eu gwneud i ddiogelu ein gilydd – yn bwysicach fyth nawr, yn enwedig hunanynysu os oes gennym symptomau neu os cawn ganlyniad prawf positif.

“Drwy barhau i gydweithio, gallwn ni ddiogelu ein gilydd a diogelu Cymru.”

‘Dwy flynedd anodd’

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, eu bod nhw’n falch bod modd llacio cyfyngiadau ar ymweliadau i gartrefi gofal, a’u hannog.

“Rydyn ni’n deall pa mor anodd y mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod i deuluoedd y mae’r cyfyngiadau hyn wedi effeithio arnyn nhw, gyda llawer yn methu â gweld eu hanwyliaid gymaint ag y bydden nhw’n ei ddymuno,” meddai Julie Morgan.

“Hoffen ni ddiolch iddyn nhw am gefnogi ein hymdrechion i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed a gobeithiwn y gallwn ni gyd edrych ymlaen at ddyfodol gwell.”

Rheolau ar wisgo mygydau mewn siopau wedi dod i ben

Mae’r gofyniad cyfreithiol i hunanynysu wedi newid i fod yn ganllaw heddiw (Mawrth 28) hefyd