Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn annog Llywodraeth Cymru i amlinellu eu cynllun i helpu athrawon a disgyblion i adfer wedi’r pandemig.
Yn ôl y blaid, mae angen i ysgolion Cymru fynd tu hwnt i adfer eu safonau cyn Covid, a’u gwella.
Daw eu galwadau wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno papur gwyn ar addysg, a fydd yn berthnasol i Loegr yn unig.
Mae’r papur gwyn hwnnw’n cynnwys sicrhau bod athro “arbennig” i bob plentyn drwy hyfforddi mwy o athrawon, creu awyrgylch sy’n gefnogol mewn ysgolion, a sicrhau cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer pob plentyn sydd ei angen.
Yn ôl ystadegau diweddaraf y Cyngor Gweithlu Addysg, roedd yna 10.3% yn llai o athrawon yng Nghymru yn 2021 o gymharu â 2011.
Fe wnaeth cyfanswm yr athrawon sy’n gallu dysgu drwy’r Gymraeg ostwng o 9,987 i 9,429 rhwng 2017 a 2021 hefyd.
‘Adeiladu rhywbeth gwell’
“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn rhoi uchelgais ac addysg o safon uchel i bob plentyn wrth wraidd y system addysg yn Lloegr,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae hi’n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru wneud yr un peth.
“Mae Llafur wastad yn rhygnu ymlaen am wneud pethau’n wahanol i Loegr ond dyw hynny ddim bob tro’n golygu y dylen nhw fod yn hwyr yn gweithredu a bod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol yn unig.
“Beth bynnag mae gweinidogion Llafur yn ei wneud, mae angen iddyn nhw symud ymlaen a, gobeithio, y byddan nhw’n defnyddio’r cynllun Ceidwadol hwn fel canllaw i gyflwyno cynllun y byddai pobol Cymru yn ei groesawu, a gwella record ofnadwy Llafur ar addysg dros y chwarter canrif ddiwethaf.
“Allwn ni ddim mynd yn ôl i ble’r oedden ni o’r blaen. Mae’n rhaid i ni adeiladu rhywbeth gwell na’r system addysg sy’n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig.
“Dan Lafur, byddai busnes fel arfer yn golygu methu fel arfer.”