Mark Drakeford yn galw am gynnal etholiad cyffredinol
Angen i’r penderfyniad am bwy fydd yn olynu Boris Johnson “gael ei wneud gan y bobol ac nid gan aelodaeth gul y blaid Geidwadol”
Pa heriau sy’n wynebu Robert Buckland, Ysgrifennydd newydd Cymru?
Y peth cyntaf ddylai fod ar ei restr yw tawelu gofidion Gweinidogion Bae Caerdydd nad yw San Steffan yn parchu’r setliad datganoli
Boris Johnson yn bwriadu aros yn Brif Weinidog nes y bydd arweinydd newydd yn cael ei benodi
Ond mae Llafur yn bygwth galw pleidlais hyder os nad yw’r Prif Weinidog yn mynd ar unwaith
Robert Buckland fydd yn olynu Simon Hart
Mae golwg360 yn deall y bydd penodiad Ysgrifennydd Cymru yn cael ei gymeradwyo’n ddiweddarach
Boris Johnson “wedi dinistrio ei enw da ei hun” ac “wedi gwneud llanast llwyr o’i blaid”
“Dw i bellach yn meddwl bod Boris Johnson yn hanes a dydy hi ddim bwys amdano fo mewn gwirionedd”
“Bydd unrhyw Brif Weinidog newydd yn trin Cymru â’r un dirmyg”
“Mae’r cylchfeistr, â’i fintai o glowniaid, wedi gwneud siambls o syrcas o ddemocratiaeth y Deyrnas Unedig.
Andrew RT Davies yn ymateb i ymddiswyddiad Boris Johnson
“Rwy’n ofni y daeth hi’n anodd iawn iddo weithredu ar sail y mandad y gwnaeth ei sicrhau”
Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru wedi ymddiswyddo “er mwyn achub eu gyrfaoedd”
Ymateb chwyrn gan y Democratiaid Rhyddfrydol i’r hyn sy’n digwydd o fewn y Blaid Geidwadol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Simon Hart wedi ymddiswyddo
“Roeddwn i wedi gobeithio’n fawr y gallwn osgoi ysgrifennu’r llythyr hwn,” meddai cyn-Ysgrifennydd Cymru yn ei lythyr
Virginia Crosbie yn haeddu dim clod am ymddiswyddo, medd Rhun ap Iorwerth
“Rydym yn haeddu gwell Prif Weinidog, gwell llywodraeth ac Aelod Seneddol”