Dyw’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru ddim wedi bod yn un dda ers tro bellach.
Mewn gwirionedd fe allai rhywun ddadlau nad yw hi erioed wedi bod mor wael.
Ar y wyneb, nid yw’n syndod fod Llywodraeth Lafur Cymru yn anghytuno gydag adran Gymreig Llywodraeth Geidwadol Prydain, ond mae’n teimlo fel bod yna ddrwg deimlad gwirioneddol wedi cyniwair yn y cyfnod yn dilyn Brexit.
Yn sicr o dan gyfnod cythryblus Boris Johnson fel Prif Weinidog, mae cynlluniau Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig am ddyfodol Cymru, a’i rôl o fewn yr Undeb, wedi gwyro ymhellach oddi wrth ei gilydd.
Pan oedd Simon Hart yn Ysgrifennydd Cymru, roedd Swyddfa Cymru’n glynu’n agos at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan arwain rhai i gwestiynu a oedd hi wir yn gweithredu ar ran Cymru.
Fodd bynnag, yn dilyn ymddiswyddiad Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro neithiwr (Gorffennaf 6), mae Robert Buckland wedi cael ei benodi i’r rôl.
Does dim dwywaith amdani, bydd gan Aelod Seneddol De Swindon, sy’n wreiddiol o Lanelli, gryn dipyn o waith i’w wneud er mwyn gwella’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru.
Y peth cyntaf ddylai fod ar ei restr yw tawelu gofidion Gweinidogion Bae Caerdydd nad yw San Steffan yn parchu’r setliad datganoli.
Mae lot o’r drwgdeimlad yma’n deillio o gyflwyno Bil y Farchnad Fewnol.
Nod honedig Bil y Farchnad Fewnol, yn ôl Llywodraeth San Steffan, yw sicrhau na fydd ffiniau mewnol – rhwng Cymru a Lloegr, er enghraifft – yn rhwystro masnach oddi fewn i’r Deyrnas Unedig, yn dilyn Brexit.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio ei fod yn “ymosodiad ar ddemocratiaeth” sy’n “aberthu dyfodol yr undeb drwy ddwyn pwerau oddi wrth weinyddiaethau datganoledig”.
Hyd yma, mae’n debyg mai’r enghraifft amlycaf o le mae’r Bil wedi creu tensiwn rhwng Bae Caerdydd a San Steffan yw ffordd liniaru’r M4.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi troi eu cefnau ar y prosiect, fe allai Bil y Farchnad Fewnol ganiatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fwrw ymlaen â’r gwaith o greu’r ffordd pe baen nhw yn cael eu cefnogi gan Aelodau Seneddol Cymreig ac awdurdodau lleol Cymru.
Mae trafnidiaeth, wrth gwrs, yn faes datganoledig ac felly mae’r ddadl wedi troi yn un gyfansoddiadol.
Os yw Bil y Farchnad Fewnol yn achosi rhagor o sefyllfaoedd tebyg i hon, a bod dim datrysiad rhwng y ddwy lywodraeth, fe allai droi’n argyfwng cyfansoddiadol.
Pwy yw Robert Buckalnd?
Roedd Aelod Seneddol De Swindon yn Arglwydd Ganghellor ac yn Ysgrifennydd Cyfiawnder rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2021, ac yn Weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2019, a chyn hynny’n Gyfreithiwr Cyffredinol.
Yn enedigol o Lanelli, cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Durham, gan raddio yn y Gyfraith yn 1990 a’i alw i wasanaethu’r flwyddyn ganlynol gan fynd yn ei flaen i weithio yng Nghaerdydd, Llundain a Chanolbarth Lloegr.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2010.
Mae’n briod ers 1997 a chanddo fe a’i wraig Sian ddau o blant, Millicent a George, ac mae’r teulu’n byw yn Wroughton yn Wiltshire.
“Heriau enfawr”
Ar gael ei benodi, dywedodd Robert Buckland fawr ddim am Gymru, nac am Lywodraeth Cymru.
“Heb fynd i fanylder y sgyrsiau, cysylltwyd â fi fore heddiw a gofynnwyd i fi a oeddwn i’n barod i wasanaethu,” meddai wrth Sky News yn dilyn ei benodiad.
“Dw i bellach yn barod i wasanaethu.
“Dw i’n meddwl, pe bai [Boris Johnson] wedi gofyn i fi ddoe, y byddwn i wedi dweud ‘Na’.
“Ond wrth gwrs, y gwahaniaeth yw bod y Prif Weinidog hwn wedi cyflwyno’i ymddiswyddiad o fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol.
“Ond mae’n rhaid i fusnes y Llywodraeth barhau, a dyna pam fy mod i wedi penderfynu dod yn ôl i mewn, i helpu fy ngwlad.
“Mae’r mater wedi cael ei ddatrys, mae’r Prif Weinidog bellach wedi gwneud ei gyhoeddiad, ac mae’r Llywodraeth yn parhau.
“Mae’r wlad hon yn wynebu heriau enfawr.
“Mae gennym ni bwysau byd-eang, mae gennym ni ryfel yn Ewrop, mae gennym ni chwyddiant, mae pethau i’w gwneud.
“Ac mae’r holl fentrau mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithio arnyn nhw ers ein buddugoliaeth etholiadol yn 2019 – codi’r gwastad a’r holl gyfleoedd ar gyfer pobol Cymru dw i bellach yn falch o gael helpu i’w cynrychioli.
“Dyna pam dw i’n meddwl fod pobol fel fi, Greg Clark a chyn-weinidogion eraill wedi penderfynu dychwelyd i wasanaethu ein gwlad.”
Swyddfa Cymru ddim yn “ffit i bwrpas”
Fodd bynnag, yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, dyw Swyddfa Cymru ddim yn “ffit i bwrpas”.
“Mae’n rhaid iddyn nhw sticio i’r setliad datganoli a pheidio tanseilio Senedd Cymru fel maen nhw wedi bod yn ei wneud o dan Johnson,” meddai wrth golwg360.
“A dw i’n meddwl bod yn rhaid i ni weld nhw, yn y tymor byr, yn cytuno i gynnig datganoli pwerau pellach.
“Yn dilyn y siambls yma, mae angen i’r setliad rhwng Cymru a Lloegr gael ei ddiwygio yn y tymor byr, ac wedyn fe gawn ni setliad tymor hir.
“Ond i ddweud y gwir dw i erioed wedi meddwl bod Swyddfa Cymru yn ffit i bwrpas byth ers datganoli.”