Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn galw am gynnal etholiad cyffredinol.

Daw hyn ar ôl i Boris Johnson gyhoeddi ei benderfyniad i ymddiswyddo, er ei fod yn bwriadu aros yn Brif Weinidog nes y bydd arweinydd newydd yn cael ei benodi.

Dywed Mark Drakeford fod “Llywodraeth sefydlog yn San Steffan” er budd holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Yn sgil y cyhoeddiad y byddai Boris Johnson yn ymddiswyddo, cyhoeddodd Mark Drakeford ddatganiad byr.

“Mae angen Llywodraeth sefydlog yn San Steffan ar bob un o’r pedair gwlad ac felly rwy’n falch o weld bod y Prif Weinidog bellach wedi gwneud y peth iawn ac wedi cytuno i ymddiswyddo,” meddai.

“Y ffordd i gyflawni hynny yw drwy etholiad cyffredinol felly bod y penderfyniad am y Prif Weinidog nesaf yn cael ei wneud gan y bobol ac nid gan aelodaeth gul y blaid Geidwadol.”

Syr Keir Starmer yn bygwth pleidlais hyder

Yn gynharach heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 7), fe wnaeth Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, fygwth galw pleidlais hyder os nad yw Boris Johnson yn gadael Rhif 10 ar unwaith.

“Mae’n rhaid iddo fynd yn gyfangwbl, dim o’r nonsens yma am aros mewn grym am rai misoedd,” meddai.

“Mae o wedi bod yn gyfrifol am gelwydd, twyll ac anhrefn a nawr rydan ni’n styc gyda Llywodraeth sydd ddim yn gallu llywodraethu.

“Fe ddylai’r rheini sydd wedi ei gefnogi dros y misoedd diwethaf deimlo cywilydd.

“Digon yw digon.

“Nid newid ar frig y Blaid Geidwadol sydd ei angen arnom, mae’n llawer iawn mwy sylfaenol na hynny.

“Rydyn ni angen llywodraeth newydd a dechrau newydd i Brydain.”