Bydd dynes o Lanberis yn cael codi byngalo sy’n cael ei ddisgrifio gan gynllunwyr fel “gormesol ac ymwthgar” yng nghanol y pentref.
Cafodd ei gymeradwyo yn dilyn ple i gadw teulu Cymraeg eu hiaith yn yr ardal, a sicrwydd na fyddai’n cael ei ddefnyddio fel llety gwyliau.
Aeth cynllunwyr Gwynedd yn groes i argymhellion swyddogion i roi sêl bendith i’r datblygiad ar Ffordd Capel Coch, ar ôl clywed mai dyma’r “unig ffordd” y byddai dynes leol yn gallu fforddio parhau i fyw’n lleol.
Dywedodd Elaine Price wrth gyfarfod cynllunio ddydd Llun (Gorffennaf 4) fod angen y tŷ arni hi a’i mab, ac na fyddai’n cael ei werthu na’i ddefnyddio fel AirBnB.
Roedd y cynigion yn cynnwys ymestyn mynediad presennol i’r safle a chynnig dau le i barcio.
Fe wrthododd swyddogion gynlluniau ar gyfer y tŷ dwy ystafell wely yng ngardd gefn Y Berllan ym mis Ionawr yn sgil pryderon am lifogydd, ond daeth hi i’r amlwg yn ddiweddarach fod hynny’n “annhebygol”.
Cais o’r newydd
Cafodd cais llawn wedi’i addasu ei gyflwyno, ond fe wnaeth swyddogion amgylcheddol argymell y dylid ei wrthod unwaith eto.
Dywedon nhw y byddai tŷ 5.9m o daldra a 5m o’r eiddo sydd yno eisoes yn “ymwthgar”, gan greu “teimlad clostroffobig”.
Byddai “safle a lleoliad” y tŷ yn creu “ymwthiad gormesol… sy’n niweidio cyfleusterau’r cymdogion yn seiliedig ar ymyrraeth sŵn”, a byddai iddo “strwythur gormesol” ac fe fyddai’n “annodweddiadol” oherwydd ei faint, meddai adroddiad.
Clywodd y cyfarfod fod yr ymgeisydd a’i theulu’n dod o’r pentref, a bod pobol yn dibynnu ar ei chefnogaeth, gan ei bod hi’n mynd â’i hwyrion i’r ysgol.
Y Berllan, lle’r oedd hi’n byw, oedd cartref ei rhieni, sydd wedi marw, ond roedd am gael ei werthu.
“Cynllun ar gyfer byngalo bach ydi hwn,” meddai dros Zoom.
“Mae digon o le ym mlaen ac yng nghefn Y Berllan i dri neu bedwar o geir a lle i droi.
“Dydi o ddim yn strwythur gormesol, fel mae’r Cyngor yn ei ddweud.
“Mae’r cynllun yn debyg iawn i’r byngalo sydd yno eisoes.
“Fydd o ddim yn achosi sŵn, dim ond un cerbyd a dau o bobol fydd yn byw yno.
“Fydd y lleoliad, ar waelod Ffordd Capel Coch, ddim yn achosi mwy o sŵn na thraffig.
“Mae mwy yn cael ei greu gan y pum AirBnB sydd eisoes ar y stryd.
“Dydi’r cymdogion ddim wedi gwrthwynebu.
“Dw i wedi gwneud popeth mae Mr Williams wedi’i ofyn.
“Dydi hi ddim yn bosib i mi brynu tŷ yn Llanberis, nac yn unrhyw le arall oherwydd prisiau tai.
“Galla i adeiladu byngalo bach yn rhatach.
“Mae fy oedran yn fy erbyn o ran prynu morgais.
“Gobeithio eich bod chi am ystyried fy nghais o ran cadw’r iaith Gymraeg yn fyw a chadw pobol leol i fyw yn y pentref.”
‘Ychydig iawn o Gymraeg sydd ar ôl yn Llanberis’
Fe wnaeth Kim Jones, cynghorydd Llanberis, gefnogi’r cais, gan ddweud nad oedd gwrthwynebiad gan gyngor y gymuned na chymdogion.
“Pan gaiff yr eiddo ei werthu, ac mae Elaine a’i brodyr a’i chwiorydd yn berchen arno, mae Elaine eisiau parhau i fyw yn Llanberis,” meddai.
“Mae ystâd newydd o dai wedi’i hadeiladu yn Llanberis, Trem Y Chwarel, ond mae’r tai allan o gyrraedd y rhan fwyaf o’r trigolion yma.
“£210,000 yw pris rhataf tŷ yn y pentref.
“Ychydig iawn o Gymraeg sydd ar ôl yn Llanberis.
“Rydyn ni’n ceisio dal ein gafael ar yr hyn sydd ar ôl, nid gwthio trigolion lleol allan oherwydd prisiau tai.
“Dydy Trem Y Chwarel ddim wedi cyfrannu at yr iaith. All neb lleol fforddio’u prynu nhw.
“Dydy’r dyluniad ddim wrth ein bodd, ac alla i ddim coelio y byddai un byngalo yn gwneud sŵn, lle mae yna bum AirBnB yn y stryd.”
Fe wnaeth y Cynghorydd Griff Williams awgrymu mynd yn erbyn argymhellion y swyddogion a chymeradwyo’r cais, ac fe wnaeth y Cynghorydd Louise Hughes eilio hynny.
“Dylem geisio cadw pobol leol i fyw yn yr ardal,” meddai Griff Williams.
Roedd y Cynghorydd Gareth Anthony Roberts hefyd o blaid cynnig y Cynghorydd Williams.
Wrth ymateb i bryderon amgylcheddol y swyddog Gareth Jones ynghylch y dyluniad a materion polisi eraill, dywedodd y Cynghorydd Williams ei fod o’r farn fod “y dyluniad yn dderbyniol, o fewn ffiniau’r pentref”.
“Mae yna angen go iawn am dai lleol, a byddem yn colli teulu o’r ardal. Allwn i ddim cytuno efo hynny.”
Aeth cynnig i gymeradwyo’r cais yn ei flaen, yn groes i’r argymhelliad, ac roedd naw o blaid a dim ond tri yn erbyn.