Does gan Boris Johnson ddim awdurdod i wneud “pethau newydd” yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl Ysgrifennydd newydd Cymru.
Mae Syr Robert Buckland wedi bod yn ceisio rhoi sicrwydd i aelodau Ceidwadol sydd wedi bod yn pwyso ar y Prif Weinidog i adael ei swydd cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser mae’r cyn-Brif Weinidog, Syr John Major, wedi ysgrifennu at Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, yn dweud y byddai’n “annoeth ac y gallai fod yn anghynaladwy” i Boris Johnson aros yn ei swydd tra bod arweinydd newydd y Torïaid yn cael ei ethol.
Ond pwysleisia Robert Buckland na fydd gan Boris Johnson lawer o gyfle i gyflwyno polisïau newydd yn yr wythnosau nesaf.
Aeth yn ei flaen i amddiffyn ei benderfyniad i ymuno â’r Cabinet, gan bwysleisio ei fod yn teimlo’r angen i “helpu a gwasanaethu”.
“Roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n iawn i mi wneud hynny,” meddai.
“Mae mater y Prif Weinidog a’i gymeriad wedi’i setlo.
“Nid oes ganddo hyder y Blaid Geidwadol mwyach. Mae’n ymddiswyddo. Ond mae busnes y Llywodraeth yn mynd yn ei flaen.
“Dw i yma i helpu.”
‘Awdurdod gwleidyddol’
Awgryma Robert Buckland hefyd nad yw Prif Weinidog dros dro yn syniad ymarferol, ac mewn gwirionedd, nad oes y fath beth â Phrif Weinidog dros dro yn system lywodraethu Prydain.
“Y system yw eich bod chi naill ai’n Brif Weinidog neu dydych chi ddim,” meddai.
“Yr hyn sydd wedi digwydd yw fod swydd arweinydd y Blaid Geidwadol bellach yn wag.
“Ac wrth gwrs, mater i’r arweinydd hwnnw, arweinydd y blaid fwyafrifol, yw dod yn brif weinidog.
“Nid oes gan y Prif Weinidog hwn yr awdurdod gwleidyddol mwyach i wneud pethau newydd.”