Mae canu ar gyfer iechyd yr ysgyfaint yn opsiwn hwyliog, di-feddyginiaeth i bobol yn ardal Gogledd Ceredigion sy’n profi diffyg anadl i helpu i wella iechyd eu hysgyfaint, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae sesiynau grŵp canu’r Skylark Singers yn rhoi’r offer i gleifion reoli diffyg anadl eu hunain.
Trwy ymarfer rheolaeth anadl a chanu, gall cleifion adeiladu stamina yn gorfforol ac yn lleisiol, gwneud y gorau o’u patrymau anadlu ac ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar.
Mae croeso i gleifion sy’n cael trafferth gyda gorbryder, Covid hir, Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD), sglerosis ymledol, clefyd Parkinson a chyflyrau cardiaidd gymryd rhan.
Gwella hyder
Mae tystiolaeth gan unigolion yn dangos bod y prosiect eisoes yn cael canlyniadau gwych, gydag un cyfranogwr yn dweud eu bod nhw wedi bod yn dioddef gyda Covid am amser hir, ac yn sydyn wedi dechrau cael anawsterau anadlu a cherdded.
“Rwy’ wedi cael dau gyfnod clir o adferiad rwy’n eu priodoli i’r sesiynau canu hyn,” meddai’r unigolyn.
“Yn gyntaf, y newid rhwng methu â cherdded i fyny allt, y gallaf ei wneud nawr.
“Yn ail, cynnydd mewn egni a chynhwysedd yr ysgyfaint, felly nawr gallaf ddewis cerdded a gwneud mwy, os dymunaf.
“Mae fy hyder siarad wedi gwella’n fawr, ac mae gen i fwy o egni am fwy o amser.
“Os oes angen i mi orffwys, mae gen i’r hyder nawr i egluro pam.”
‘Teimlo’n fwy hamddenol ar ôl canu’
“Rwy’n bensiynwr sy’n byw ar fy mhen fy hun,” meddai unigolyn arall.
“Pan ymunais â’r Skylark Singers fe helpodd fi i fynd allan o’r tŷ a chwrdd â phobol newydd.
“Mae gen i hemidiaffram uchel, ac mae’n gwneud fy anadlu’n anodd.
“Mae’r sesiynau canu hyn yn help mawr i mi gyda fy anadlu.
“Rwy’n teimlo’n fwy hamddenol ar ôl y canu ac ar ôl cyrraedd adref rydw i eisiau canu, rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi arfer ei wneud.
“Mae fy mab wedi dweud wrthyf ei fod yn meddwl fy mod yn berson mwy siriol ers mynd i Skylark Singers ac rwy’n edrych ymlaen at bob sesiwn.”
Mae’r sesiynau canu rhad ac am ddim yn cael eu cynnal wyneb-yn-wyneb bob wythnos yn Aberystwyth, neu dros Zoom i bobol o’r tu allan i’r ardal.