Mae llyfryn sy’n codi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg ac yn annog trigolion Ynys Môn i ddefnyddio ac i ddeall gwerth yr iaith yn cael ei ddosbarthu i bob cyfeiriad ar yr ynys yr wythnos hon.

Mae’r llyfryn ‘Croeso i Gymru/ Croeso i Ynys Môn / Croeso i’r Gymraeg’ wedi cael ei greu a’i gyhoeddi gan Fenter Iaith Môn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn, drwy gefnogaeth rhaglen ARFOR a Chronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig.

Y nod yw sicrhau fod gan unigolion, teuluoedd a busnesau di-Gymraeg sy’n symud i’r ynys ddealltwriaeth o’r Gymraeg, y manteision o ddysgu’r iaith, a’r rôl mae’r iaith yn ei chwarae ym mywyd dydd i ddydd trigolion yr ynys.

‘Ymgartrefu a deall ein diwylliant’

“Dyma lyfryn deniadol, diddorol a chynhwysfawr, fydd yn help mawr i bobol sy’n symud i’r ardal i ymgartrefu a deall ein diwylliant,” meddai Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn.

“Y gobaith yw y byddan nhw’n cael eu hysbrydoli i ddysgu mwy am y diwylliant lleol ac i ddechrau dysgu’r iaith.

“Mae’r llyfryn yn llawn o wybodaeth defnyddiol, o hanes yr iaith i bwysigrwydd addysg Gymraeg a’r gefnogaeth sydd ar gael i fynd ati i ddysgu’r iaith.

“Yn ogystal â gwybodaeth yn benodol ar gyfer busnesau a gweithleoedd mae’n cynnwys manylion am amryw o fudiadau, apiau ac adnoddau ar-lein defnyddiol sydd ar gael yn y Gymraeg.

“Rydym yn awyddus iawn i glywed barn am y llyfryn, a mesur ei gyrhaeddiad.

“Felly, rydym wedi lansio cystadleuaeth i gyd-fynd â’r gwaith, sy’n rhoi’r cyfle i bobol i rannu adborth am y pecynnau i gael siawns o ennill hamper Bragdy Cybi a Dylan’s.

“Bydd manylion y gystadleuaeth yn cael eu rhannu ar ein gwefannau cymdeithasol, a bydd taflenni yn cael eu dosbarthu i ysgolion, sefydliadau ac mewn digwyddiadau dros yr haf.”

‘Diolch’

Mae Llinos Medi Huws, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, wedi diolch i’r Fenter Iaith a’r Cyngor “am eu gwaith trefnu”, ac i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig am y cyllid.

“Bydd y llyfryn yn ased defnyddiol i’r Cyngor ac i Fenter Iaith Môn gyda’r gobaith y bydd yn rhoi hwb i warchod a defnyddio’r Gymraeg ar yr ynys,” meddai.

Mae Menter Iaith Môn yn rhan o deulu ehangach Menter Môn ac yn cydweithio gyda phartneriaid dan faner Fforwm Iaith Môn i greu bwrlwm ac i hyrwyddo’r Gymraeg ar yr ynys.

Mae’r llyfryn hefyd ar gael ar wefan Menter Iaith Môn a Chyngor Sir Ynys Môn: Y Gymraeg ar Ynys Môn (llyw.cymru)