“Nid oes lle i drais mewn gwleidyddiaeth”, meddai Mark Drakeford wrth ymateb i farwolaeth cyn-Brif Weinidog Japan mewn amgylchiadau treisgar.

Cafodd Shinzo Abe ei saethu ddwywaith wrth annerch cynulleidfa wrth ymgyrchu yn ninas Nara fore heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 8).

Fe wnaeth swyddogion diogelwch geisio atal y saethwr, dyn 41 oed, ac mae e bellach yn y ddalfa.

Pan aeth yr heddlu i chwilio cartre’r saethwr, daethon nhw o hyd i ffrwydron honedig.

“Ofnadwy i glywed y newyddion trasig o Japan y bore yma,” meddai Prif Weinidog Cymru ar Twitter.

“Mae Cymru’n anfon ei chydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau’r cyn-Brif Weinidog Shinzo Abe, ac at bobl Japan.

“Nid oes lle i drais mewn gwleidyddiaeth.”