Mae’r economegydd Dr John Ball wedi dweud wrth gynulleidfa yn Abertawe yr wythnos hon y gallai Cymru annibynnol dalu drosti ei hun ac nad yw hi’n wlad dlawd.
Bu’r cyn-ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Abertawe’n annerch cynulleidfa yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin nos Fercher (Gorffennaf 6), lle pwysleisiodd nad yw Cymru’n rhy fach i fod yn wlad annibynnol.
“Mae gan 31% o wledydd y Cenhedloedd Unedig boblogaeth debyg neu lai,” meddai, gan egluro mai ystyr ‘gwlad fach’ yn ôl rhai ymchwilwyr yw gwlad sydd â phoblogaeth o bum miliwn neu lai.
Os felly, mae’n dadlau bod y diffiniad hwnnw’n berthnasol i hanner aelodau’r Cenhedloedd Unedig.
Ac wrth edrych ar economeg y sefyllfa, fe ddywedodd wrth y cyfarfod fod y gwahaniaeth rhwng refeniw trethi a gwariant y llywodraeth oddeutu 8% – “dim byd tebyg i’r 27% yr oedd ymchwil flaenorol yn ei awgrymu”, meddai.
Dywedodd ymhellach fod pob llywodraeth yn ei chael hi’n anodd neu’n methu â mantoli’n fanwl gywir, a bod diffyg ariannol yn “ddigon cyffredin ar draws y byd”.
“Gallai trethu dŵr a thrydan godi rhyw dair biliwn o bunnoedd,” meddai.
Treth dwristiaeth
Awgrym arall sydd ganddo yw’r dreth dwristiaeth ddadleuol.
“Mae gan Gymru economi dwristiaeth gref ond, yn wahanol i 43 o wledydd eraill sy’n gyrchfannau i dwristiaid sydd â’r fath dreth, does ganddi ddim treth dwristiaeth,” meddai.
Mae’n dweud ymhellach fod treth gwerth tir yn “ffynhonnell ddefnyddiol o gyllid” sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth ym mhob cwr o’r byd.
Mae hefyd yn dadlau dros barhau i ddefnyddio’r bunt, gan dynnu sylw at y ffaith fod llu o wledydd ym mhob cwr o’r byd yn defnyddio arian gwledydd eraill yn gwbl lwyddiannus.