Dylid canslo gwyliau’r haf yn San Steffan er mwyn “cadw’r sgwatiwr o Brif Weinidog yn onest”, yn ôl Liz Saville Roberts.

Fel arfer mae Aelodau Senedd San Steffan yn cael deufis a hanner o wyliau dros yr Haf.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dilyn amharodrwydd Boris Johnson i adael Downing Street, er ei fod e wedi cadarnhau ei ymddiswyddiad o fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol.

Mae disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig aros yn Rhif 10 Downing Street hyd nes bod ei blaid yn ethol arweinydd newydd yn yr hydref.

Ond yn ôl Plaid Cymru, mae angen cadw llygad arno yn y cyfamser, gan nad oes modd “ymddiried ynddo â lifrau grym”.

Dywed Liz Saville Roberts y byddai “democratiaeth yn cael ei thanseilio ymhellach pe na bai modd i Aelodau Seneddol gadw’r sgwatiwr o Brif Weinidog yn onest”.

Mae Plaid Cymru’n galw arno i adael Downing Street ar unwaith a phe bai’r Ceidwadwyr yn methu â’i symud oddi yno cyn y gwyliau, maen nhw’n galw ar Boris Johnson i fynd i San Steffan yn rheolaidd “i roi diweddariadau ynghylch ei weithredoedd e a’i gabinet zombie“.

‘Hurt’

“Mae’n hurt fod gan Boris Johnson yr allweddi i Rif 10 o hyd, er ei fod e wedi colli’r hawl iddyn nhw,” meddai Liz Saville Roberts.

“Fe wnaeth ei araith hunangeisiol ddoe ddangos dim hunanymwybyddiaeth nac edifeirwch.

“Rwy’n ofni’r hyn y bydd y bwli narsisaidd hwn o Brif Weinidog yn ei wneud gyda’i ddiwrnodau olaf mewn grym.

“Mae disgwyl i Dŷ’r Cyffredin dorri ar gyfer gwyliau’r haf ymhen llai na phythefnos ac ar ôl hynny, bydd Johnson yn parhau i fod yn ei swydd heb unrhyw graffu.

“Byddai democratiaeth yn cael ei thanseilio ymhellach pe na bai Aelodau Seneddol yn gallu cadw’r sgwatiwr o Brif Weinidog yn onest.

“Os yw’n mynnu cadw ei afael ar rym hyd y diwedd, rhaid iddo o leiaf ddod i’r Senedd i roi diweddariadau rheolaidd ynghylch ei weithredoedd e a’i gabinet zombie.”