Ddeufis ers iddo ddisodli’r cynghorydd Plaid Cymru yn ward Llansannan ar Gyngor Sir Conwy, mae Trystan Lewis wedi bod yn tynnu sylw at broblem tai haf yn yr ardal.
Fe safodd Trystan Lewis fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiadau lleol ym mis Mai, a chael ei hel o Blaid Cymru am wneud hynny.
Roedd wedi treulio’r bum mlynedd flaenorol yn cynrychioli’r Blaid ar Gyngor Sir Conwy yn ward Pensarn ger Cyffordd Llandudno.
Ac wedi iddo symud i fyw i gyffiniau Llansannan, roedd am gynrychioli’r ward honno… ond doedd ganddo ddim hawl i sefyll yn erbyn ymgeisydd swyddogol Plaid Cymru, ac felly fe gafodd ei wahardd o’r Blaid.
Sefyll yn annibynnol yn Llansannan wnaeth Trystan Lewis, ac wedi i’r pleidleisiau gael eu cyfrif roedd hi’n agos iawn rhyngddo fo a’r ymgeisydd Plaid Cymru, Sue Lloyd-Williams, oedd wedi cynrychioli’r ward ers 2008.
Wedi i’r cyfrif ddod i ben, roedd Trystan Lewis wedi derbyn 358 o bleidleisiau, sef 46% o’r bleidlais, tra bod Sue Lloyd-Williams wedi derbyn 321 o bleidleisiau, sef 41%.
Ac mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae’r Cynghorydd Trystan Lewis wedi dweud mai un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu Llansannan ac ardaloedd gwledig eraill sir Conwy yw ail gartrefi.
Mae’n dweud ei bod hi’n gallu bod yn her cael cynghorwyr o ardaloedd trefol sir Conwy i “gydymdeimlo gyda beth sy’n digwydd yng nghefn gwlad”.
“Yn Llansannan, mae yna nifer o bobol ifanc sy’n gorfod gadael yr ardal oherwydd nad oes yna dai iddyn nhw,” meddai Trystan Lewis.
“Mae’r cwestiwn o dai fforddiadwy ac adeiladu mwy o dai yn un pwysig, oherwydd dyma yn union beth sy’n mynd i ddigwydd mewn cymunedau eraill fel Llanefydd.
“Os nad oes yna blant, os nad oes yna bobol ifanc yn tyfu i fyny ac yn byw yna, mi fydd hi’n fôr o dai haf a fydd yna ddim calon i’r gymuned.”
“Ddim yn prynu ddim byd yn lleol”
Mae Trystan Lewis yn siarad yn blaen am yr hyn mae’n ei weld yn effaith andwyol perchnogion tai haf ar gefn gwlad sir Conwy.
“Beth sy’n digwydd rhan amlaf yw bod y bobol yma’n dod dros benwythnos, dydyn nhw ddim yn prynu ddim byd yn lleol, maen nhw’n dod a bwyd ac ati gyda nhw,” meddai.
“Yn Llansannan er enghraifft, mae yna bobol yn berchen ar gartrefi, ond does yna neb byth yn gweld nhw yn y siop, does yna neb yn gwybod pwy ydyn nhw, dydyn nhw’n gwneud dim gyda’r gymuned.
“Yn amlwg dydyn nhw ddim yn siarad Cymraeg, ond dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwario eu pres yn y gymuned.
“Felly mae hi yn argyfwng yng Nghonwy, a’r drafferth yng Nghonwy wrth gwrs ydi fod y Glannau yn drefol a phoblog ac mae hi anodd cael cynghorwyr yna weithiau i gydymdeimlo gyda beth sy’n digwydd yng nghefn gwlad.
“Dim pob un, ond yn aml iawn dydyn nhw ddim yn gallu gweld ein hochr ni ohoni.
“Maen nhw’n dweud bod angen i ni hybu twristiaeth a pheidio cosbi’r bobol yma.
“Ond mae hi’n amlwg bod yna waedu yn digwydd yng nghefn gwlad, i fyny yn Nyffryn Conwy, i fyny yn Nyffryn Elwy ac am Ddyffryn Clwyd yn yr ardal yma. Ac weithiau dydy’r cynghorwyr hynny sydd ar y Glannau ddim yn gweld hynny.
“Felly dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i mi fel aelod annibynnol ac i ni fel grŵp annibynnol weithio gyda Phlaid Cymru i fwrw’r maen yna i’r wal.”
Mesurau newydd i daclo tai haf
Ddechrau’r wythnos hon roedd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi mesurau newydd i daclo effaith negyddol tai haf ar rai o ardaloedd mwyaf poblogaidd Cymru.
Dan y mesurau diweddara’ fe fydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd yn cael eu cyflwyno – ar gyfer prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
Bydd cynghorau sir yn gallu – lle mae ganddyn nhw dystiolaeth – gwneud newidiadau i’r system gynllunio a fydd yn gorfodi perchnogion i gael caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo o un dosbarth i’r llall.
Fe fydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol i alluogi cynghorau sir i reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.
Hefyd mi fydd yna ofyn cyfreithiol i gael trwydded i gynnal llety gwyliau tymor byr.
Ac mi fydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda chynghorau sir i ddatblygu fframwaith cenedlaethol er mwyn gallu cynyddu cyfraddau treth trafodiadau tir uwch ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau mewn ardaloedd penodol.
Annibyniaeth ag ati
Llawer mwy gan Trystan Lewis yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon – mae yn trafod y posibilrwydd o ailymuno gyda’r Blaid, ceisio am le yn Senedd Cymru, a dyfodol y wlad:
“Os ydi’r Alban yn mynd, a dyna dw i’n rhagweld sy’n mynd i ddigwydd, mae’r cyfle euraidd gennym ni wedyn fel Cymry i ymgyrchu am annibyniaeth.”