Mae Boris Johnson wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu aros yn Brif Weinidog nes y bydd arweinydd newydd yn cael ei benodi.

Wrth gyhoeddi ei ‘ymddiswyddiad’ o flaen Rhif 10 Downing Street, dywedodd y dylai’r broses o ddewis yr arweinydd newydd ddechrau nawr, gan gadarnhau y bydd yr amserlen ar gyfer gwneud hynny yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.

“Mae’n amlwg nawr mai ewyllys y Blaid Geidwadol seneddol yw penodi arweinydd newydd i’r blaid, ac felly, prif weinidog newydd,” meddai Boris Johnson wrth ddechrau ei araith.

“Bydd ein system wych yn cynhyrchu arweinydd arall, a bydda i’n rhoi cymaint o gefnogaeth ag y gallaf i’r arweinydd newydd.”

Aeth yn ei flaen i ddweud y byddai’n wirion newid llywodraeth, gan wrthod y syniad o etholiad cyffredinol oherwydd bod y Blaid Geidwadol yn “cyflawni cymaint gyda mandad mor enfawr, pan fo’r sefyllfa economaidd mor anodd yn ddomestig ac yn rhyngwladol.

“Mae’n boenus peidio cael y cyfle i gyflawni gymaint o syniadau a phrosiectau yn bersonol,” meddai.

“Yn fwy na dim, hoffwn ddiolch i chi, y cyhoedd, am y fraint aruthrol yr ydych wedi’i rhoi i mi.

“Mae bod yn brif weinidog yn addysg ynddi’i hun – rwyf wedi teithio i bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac rwyf wedi canfod fod cymaint o bobol yn cynrychioli gwreiddioldeb Prydeinig ac yn barod i fynd i’r afael â hen broblemau mewn ffyrdd newydd.

“Er bod pethau’n ymddangos yn dywyll nawr, mae ein dyfodol gyda’n gilydd yn euraid.

“Rwyf am i chi wybod pa mor drist ydw i i fod yn rhoi’r gorau i’r swydd orau yn y byd.

“Ond dyna sut mae hi’n mynd weithiau.”

‘Dim hunanymwybyddiaeth’

Fodd bynnag, mae sawl aelod o’r gwrthbleidiau am weld Boris Johnson yn “mynd ar unwaith”.

“Araith ymddiswyddo hunan-wasanaethol gan Johnson. Dim hunanymwybyddiaeth. Dim edifeirwch,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Ni allwn oddef y bwli hwn o Brif Weinidog narsisaidd funud yn hirach.

“Cer nawr.”

Llafur yn bygwth pleidlais hyder

Yn y cyfamser, mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn bygwth galw pleidlais hyder os nad yw Boris Johnson yn mynd ar unwaith.

“Mae’n rhaid iddo fynd yn gyfangwbl, dim o’r nonsens yma am aros mewn grym am rai misoedd,” meddai.

“Mae o wedi bod yn gyfrifol am gelwydd, twyll ac anhrefn ac nawr rydan ni’n styc gyda Llywodraeth sydd ddim yn gallu llywodraethu.

“Fe ddylai’r rheini sydd wedi ei gefnogi dros y misoedd diwethaf deimlo cywilydd.

“Digon yw digon.

“Nid newid ar frig y Blaid Geidwadol sydd ei angen arnom, mae’n llawer iawn mwy sylfaenol na hynny.

“Rydyn ni angen llywodraeth newydd a dechrau newydd i Brydain.”