Rhyddhau Peter Murrell, cyn-Brif Weithredwr yr SNP, o’r ddalfa

Cafodd gŵr cyn-Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon ei arestio ddoe (Ebrill 5) fel rhan o ymchwiliad i weithdrefnau ariannol y blaid

Trais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn cynghorwyr Conwy yn “risg mawr”

Richard Evans, Gohebydd Democratiaeth Leol

Dywed swyddogion y Cyngor eu bod nhw’n credu bod yr aflonyddu wedi cynyddu yn sgil y pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw

Strategaeth cerbydau trydan yn “embaras”, “annerbyniol” a “llawn addewidion wedi’u torri”

Dywed Llyr Gruffydd fod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru’n “gynllun diffyg gweithredu”

Arestio Peter Murrell, cyn-Brif Weithredwr yr SNP

Mae gŵr cyn-Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi’i arestio fel rhan o ymchwiliad i weithdrefnau ariannol y blaid

Croesawu gohirio ymgynghoriad parcio ar balmentydd tan 2024

Daw ymateb Llyr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ar ôl cwynion am lwyth gwaith cynghorau

“Hynod bwysig dysgu o hanes,” medd arweinydd Cyngor Ynys Môn

Cadi Dafydd

25 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad yn beirniadu diwylliant y cyngor, mae Llinos Medi wedi diolch i bawb fu’n ceisio dod â’r diffygion i ben

“Diwrnod hanesyddol” ar ôl i Donald Trump fynd gerbron llys i wynebu cyhuddiadau

Ymateb y newyddiadurwraig Maxine Hughes i ymddangosiad cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau gerbron llys

Catalwnia ymhlith y gwledydd cyntaf i gymeradwyo cyfyngiadau ar feddalwedd ysbïo

Mae’r llywodraeth wedi cyflwyno moratoriwm ar nifer o becynnau meddalwedd tebyg, gan gynnwys Pegasus
Baner Cernyw

Galw yng Nghernyw am gydweithio i sicrhau “datganoli ystyrlon” fel sydd gan Gymru

Daw hyn ar ôl i Gernyw gyhoeddi na fyddan nhw’n gwthio i gael maer sydd wedi’i ethol yn uniongyrchol

Galw ar gynghorau Cymru i ddathlu coroni Charles, “y siaradwr Cymraeg” yn Frenin Lloegr

Mae’n “gyfle i ddod â chymunedau ynghyd”, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig