Mae Peter Murrell, cyn-Brif Weithredwr yr SNP a gŵr cyn-Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, wedi cael ei ryddhau ar ôl cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad i weithdrefnau ariannol y blaid.

Mae’r dyn 58 oed yn cael ei ryddhau ar ôl cael ei gludo i’r ddalfa fore ddoe (dydd Mercher, Ebrill 5), ond mae’r heddlu dal wrthi’n chwilio cartre’r teulu yn Glasgow heddiw.

Camodd Peter Murrell o’r neilltu fis diwethaf ar ôl cael ei benodi yn 1999, ac mae Nicola Sturgeon bellach wedi ymddiswyddo hefyd, ac wedi’i holynu gan Humza Yousaf.

Yn y cyfamser, ni fydd Nicola Sturgeon yn siarad mewn digwyddiad ar newid hinsawdd heddiw, a bydd Ysgrifennydd Sero Net y cabinet yn cymryd ei lle.

Mewn datganiad ddoe, dywedodd Heddlu’r Alban: “Fe fu swyddogion yn chwilio mewn sawl cyfeiriad heddiw fel rhan o’r ymchwiliad.

“Bydd adroddiad yn cael ei yrru at Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Caffael Arian.”

Cefndir

Dechreuodd ymchwiliad Heddlu’r Alban i’r achos fis Gorffennaf 2021, ar ôl derbyn cwynion ynghylch y ffordd roedd rhoddion ariannol i’r SNP yn cael eu defnyddio.

Mae amheuon ynghylch y defnydd o arian sydd wedi’i roi i’r blaid at ddibenion yr ymgyrch tros annibyniaeth.

Ar y pryd, dywedodd Nicola Sturgeon nad oedd hi’n “poeni” am yr ymchwiliad, ac y byddai “pob ceiniog” o’r arian y byddai’r blaid yn ei dderbyn yn mynd tuag at yr ymgyrch tros annibyniaeth.